Cartwn Cysyniad
Pwrpas:
•Medru eu defnyddio nhw ar ddechrau neu yn ystod cyflwyniad i bwnc penodol
•Cymhwyso gwybodaeth flaenorol, datblygu dealltwriaeth ac annog cyfraniad gan bawb.
CANLLAWIAU
•Pwrpas hwn yw i gael y disgyblion i drafod y cysyniadau sydd ar y sleid.
•Gall y cysyniadau fod yn rhai cywir neu anghywir a’r pwrpas ydy bod y disgyblion yn defnyddio gwybodaeth flaenorol ac yn datblygu dealltwriaeth ehangach.
•Drwy gynnig barn neu syniad i’r dysgwyr, gall hyn annog dysgwyr anfoddog neu dawel i gyfrannu at y drafodaeth.
Athro:
•Paratoi sleid gyda Cartwn Cysyniad a phatrymau brawddegau i’w defnyddio.
•Medrir strwythuro’r dasg fel bod y dysgwyr yn dechrau drwy gytuno ac anghytuno’n unig gyda’r gwahanol gysyniadau. Neu gallwch annog y disgyblion i geisio esbonio sut mae un o’r cymeriadau wedi camddeall cysyniad. Ffordd arall o ddefnyddio’r cartwn ydy i annog y dysgwyr i ddefnyddio syniadau’r cymeriadau i ddatblygu ymatebion personol i’r cwestiwn.
Disgybl:
•Trafod y cysyniadau gan ddilyn y strwythur y dymuna’r athro.
enghreifftiau
1. Mynegi barn ar unrhw bwnc.
2. Cysyniad gwyddonol, mathemategol, daearyddol