Crëwyd y drysorfa gan athrawon ymroddgar o ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Consortiwm Canolbarth y De. Daeth aelodau’r gweithgor o’r ysgolion canlynol – Bro Edern, Garth Olwg, Glan Morfa, Llanhari, Plasmawr, Rhydywaun a Santes Tudful. Ein nod yw i rannu ein dealltwriaeth o Lafaredd a sut y’i cymhwyswyd yn ein dosbarthiadau ar draws y rhanbarth.
Mae’r drysorfa’n cynnwys cyfoeth o adnoddau i wneud dysgu Llafaredd yn benodol, perthnasol a mentrus. Mae’n helpu’r disgyblion i ddatblygu sgiliau er mwyn bod yn ddehonglwyr diduedd, beirniadol ac yn ddinasyddion medrus, hyderus yng Nghymru ac draws y byd. Mae’n dysgu trwy siarad penodol a dysgu sut i siarad yn safonol.
Ysgrifennwyd y drysorfa i athrawon a hyfforddwyr. Beth bynnnag yw eich rôl, byddwch yn debygol o ddarganfod rhyw elfen o werth ynddi. Mae gweithgareddau yn y drysorfa i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 5. Bydd angen i chi ddewis y rhai sydd mwyaf addas i’ch disgyblion.
Does neb yn debygol o ddefnyddio’r holl weithgareddau gyda’i disgyblion. Bydd angen i chi ddewis y rhai sydd yn fwyaf defnyddiol neu addas ar gyfer dysgwr penodol neu grŵp. Efallai hoffech chi addasu rhai o’r gweithgareddau.
Sut bynnag y defnyddiwch chi’r drysorfa, gobeithiwn y bydd yn darparu y sail i ddysgu creadigol y bydd at ddant eich disgyblion ac yn eu helpu i wella ac i ddatblygu sgiliau pwysig bydd o fudd iddynt yn eu bywyd a’u gwaith yn y dyfodol.
Mae amrywiaeth o weithgareddau yn y drysorfa – pob un â chyfarwyddiadau cam wrth gam clir gydag amlinelliad o’r ffordd orau i’w defnyddio. Mae’r arweiniad yn rhoi trosolwg o agwedd o’r dasg siarad. Byddant yn aml yn cynnwys pwyntiau posib i’w trafod gyda’r disgyblion.
Gellir eu defnyddio:
· I ddiweddaru neu ddatblygu eich gwybodaeth o’r testun
· I baratoi mewnbwn ar gyfer grŵp
· Fel ffocws i drafodaeth gyda dysgwr unigol
· Fel sail i daflen i ddysgwr
Am fwy o wybodaeth am Voice 21 cliciwch yma.