• Gweithio mewn grŵp
• Meddwl yn ddwys
• Defnyddio geirfa
• Archwilio a gwerthuso syniadau gan fyfyrio arnynt
Canllawiau:
Dysgwyr i eistedd mewn grwpiau cyfartal o gwmpas y ddesg.
Pob llais a chyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n gyfartal.
Athro:
Cyflwyno deunydd darllen ar destun arbennig i’r dysgwyr o flaen llaw.
Gofyn i’r dysgwyr i ddarllen crynodeb o’r testun gan gasglu eu hargraffiadau cyntaf.
Penderfynu ar feini prawf llwyddiant addas a thynnu sylw’r dysgwyr tuag atynt.
Athro i fapio’r drafodaeth wrth wrando ar y grŵp.
Dysgwr:
Nodi enwau’r dysgwyr yn y blychau o gwmpas y cylch.
Dewis un dysgwr i fapio’r drafodaeth neu gall pob dysgwr wneud hynny yn eu tro.
Mapio’r drafodaeth a nodi faint o weithiau maent yn cyfrannu tuag at y drafodaeth.
Nodi rhif y maen prawf llwyddiant wrth ymyl eu henwau os ydynt wedi ei gyflawni.
Rhoi adborth ar ddiwedd y dasg gan fyfyrio ar eu cyfraniadau a’u trafodaethau.
Meini Prawf Llwyddiant: defnyddio iaith mynegi barn, gwrando’n astud, gofyn cwestiwn, sôn am brofiadau personol.
Strategaeth Datrys Problem: rhagweld, gofyn cwestiwn, egluro, crynhoi