Atgyfnerthu dealltwriaeth unigolion o gysyniadau newydd. Bydd dysgwyr yn cyflwyno gwybodaeth newydd fel petai yn arbeingwyr yn y pwnc/testun trafod.
*(Mae’r dasg yma yn arwain yn naturiol o Ystyr y Gair).
Canllawiau:
•Wedi i chi drafod pwnc neu testun trafod; mae gofyn bod grwpiau neu parau yn paratoi i adrodd yn ôl i weddill y dosbarth.
•Gallwch ofyn bod un dysgwr yn cyflwyno i grwp, neu i’r dosbarth.
•Modelwch iaith addas, e.e. ‘Myfi yw’r arbenigwr...’/‘Yn fy marn proffesiynol…’
Athro:
•Cefnogi dysgwyr drwy gynnal a sicrhau awyrgylch diogel a pharchus wrth i ddysgwyr gyflwyno.
Dysgwr:
•Mae gofyn bod y dysgwyr trafod a chynllunio sut byddent yn adrodd gwybodaeth fel arbenigwr.
•Defnyddio iaith perthnasol, gan gynnwys y termau arbenigol o’r dasg ‘Ystyr y Gair’.
Gwahaniaethu:
Caniatau cyfle i unigolion ymarfer eu cyflwyniad byr fel arbeigwyr i'w grwpiau cyn gyflwyno i'r dosbarth.
Sicrhau awyrgylch diogel a pharchus tra fod dysgwyr yn adrodd syniadau i'r dosbarth.
Os yw’n addas (CS/CA2), efallai y byddwch yn chwarae rôl drwy wisgo fel cymeriadau neu arbenigwyr sy’n arbenigo mewn maes, e.e. meddygon, gwyddonwyr.
Gwyddoniaeth: Cyfle i unigolion gyflwyno beth yw diffiniad geirfa penodol neu’r camau i broses gwyddonol (system dreulio, ffotosynthesis).
Rhifedd: Cyflwyno’r camau addas o sut mae datrys broblem neu cwblhau swm mathemategol i weddill y dosbarth.
Llythrennedd: Mae’r ‘arbenigwyr’ yn rhannu eu syniadau wrth iddynt drafod a dehongli cyfres o gerddi.