Bwydo Ffeithiau
Pwrpas:
Ehangu a chyfoethogi’r drafodaeth.
CANLLAWIAU
•Rhannu’r dysgwyr mewn i grwpiau addas.
•Rhoi pwnc neu sbardun i’r dysgwyr i drafod.
•Wedi i’r drafodaeth ddechrau, bwydo un ffaith/cysyniad/barn i un disgybl i’w ddarllen i’r grŵp.
•Gallwch fwydo cymaint o ffeithiau i lywio a chyfoethogi’r drafodaeth.
Athro:
•Paratoi sbardun addas ar gyfer y drafodaeth. Mae modd defnyddio diagramau, lluniau, clipiau sain neu fideo fel sbardun.
•Paratoi y ffeithau/cysyniadau/pwyntiau y dymunir eu rhannu gyda’r disgyblion i’w trafod.
•Cylchdroi o gwmpas y dosbarth yn cyflwyno’r ffeithiau ar adegau pwrpasol neu mae modd rhoi’r ffeithiau mewn amlen i’r disgyblion ddewis un ar y tro ar gyflymder addas iddyn nhw.
Disgybl:
•Cyfrannu at y drafodaeth, gwrando ar eraill, annog cyfraniad gan bawb, sicrhau fod barn pawb yn cael ei glywed.
•Darllen y ffeithiau a gyflwynir yn glir i bawb yn y grŵp a gwrando tra bod y ffeithiau’n cael eu darllen.
enghreifftiau
1. Cymraeg. Technoleg. CA3- Dangos clip fideo sy’n trafod seibrfwlio. Gadael i’r disgyblion drafod/crynhoi y fideo. Bwydo ffeithiau am seibr fwlio/defnydd o dechnoleg mewn wrth i’r drafodaeth fynd yn ei flaen.
2. Bioleg. Bacteria. CA3.- Dangos lluniau o wahanol gelloedd a gadael i’r disgyblion i drafod nodweddion y celloedd. Bwydo ffeithiau mewn am wahanol mathau o gelloedd.