PWRPAS: Pwysleisio pwysigrwydd o wrando’n ofalus ar drafodaethau eraill. Cyfle i ymarfer sgiliau gwybyddol sef cyrnhoi.
CANLLAWIAU
Dysgwr:
•Disgybl A a disgybl B yn trafod testun/thema/gosodiad.
•Disgybl C yw’r CRYNHOWR DISTAW– Rhaid i’r ‘crynhowr’ aros yn dawel trwy gydol y drafodaeth. Does dim hawl i’r crynhowr ysgrifennu nodiadau.
•Wedi’r drafodaeth, rhaid i ddisgybl C grynhoi’r prif bwyntiau ar lafar o flaen eraill.
Athro:
•Gall yr athro baratoi a darparu taflen gydag esiamplau o brawddegau agoriadol ar gyfer y siaradwyr.