Cyfle i ymestyn geirfa neu i gyflwyno termau arbenigol newydd o fewn pwnc penodol.
Rhaid i ddysgwyr drafod yn archwiliadol er mwyn canfod ystyron i eirfa penodol.
Canllawiau:
•Ar gyfer y dasg hon, gall ddisgyblion eistedd a thrafod mewn parau neu fel grŵp.
•Annog ymrwymiad drwy ofyn i bob aelod o’r grŵp i ddarllen term/diffiniad yn eu tro.
Athro:
•Bydd angen darparu cyfres o gardiau sy’n cynnwys termau/gerifa sy’n benodol i’ch ffocws dysgu, a diffinidau sy’n cyd-fynd a’r termau hyn.
Dysgwr:
•Mae gofyn bod y dysgwyr yn darllen y cardiau, cyn mynd ati i drafod pa derm sy’n cyd-fynd a’r diffiniad priodol.
•Gosod y cardiau gyda’i gilydd gan wirio a chyfiawnhau eu dewisiadau.
•Gall y grwpiau adrodd yn ôl i’r dosbarth.
Gwahaniaethu:
Paratoi termau a diffininiadau sy'n herio geirfa eich dysgwyr.
Sicrhau awyrgylch diogel a pharchus tra fod dysgwyr yn adrodd syniadau i'r dosbarth.
Gwyddoniaeth: Addas ar gyfer cyflwyno termau newydd, e.e. Labelu rhannau o gelloedd anifail neu blanhigyn, organau’r corff a’u swyddogaethau.
Dyniaethau: Gellir cyflwyno termau sy’n arbenigol i bynciau megis Addysg Grefyddol, Daearyddiaeth – llyfrau a mannau addoli / labelu termau'r gylchred ddŵr.
Llythrennedd: Bydd y dasg yma yn addas er mwyn cefnogi a chyfoethogi unrhyw thema penodol ble rydych yn cyflwyno geirfa/termau newydd.