Bob amser, Weithiau, Byth
Pwrpas: Mae’r weithgaredd Bob Amser, Weithiau, Byth yn gofyn i’r dysgwr cyfatebu’r gosodiadau gyda’r teitlau
Canllawiau
Mae’r Athro yn:
•darparu setiau o osodiadau ar gyfer eu cyfatebu.
•cynnig banc o eirfa berthnasol ar gyfer mynegi barn a thrafod.
•gallu asesu dealltwriaeth y dysgwr o gysyniad arbennig ar ddechrau ac ar ddiwedd yr uned o waith.
•cyfeirio ac atgoffa disgyblion o ganllawiau trafod. (Gweler Poster)
Mae’r dysgwr yn:-
•dwyn i gof unrhyw ddysgu blaenorol am gysyniad/pwnc/thema.
•ymchwilio a chanfod tystiolaeth i gefnogi a chyfiawnhau ei barn.
•adeiladu, herio, crynhoi, egluro a phrocio syniadau ei gilydd
enghreifftiau
Mae’r dull yma yn fodd effeithiol o annog trafodaethau yn enwedig wrth ymdrin a rhesymu gan ei fod yn annog disgyblion i chwilio am dystiolaeth i gyfiawnhau a chefnogi eu syniadau e.e
Mathemateg –Mae sgwar yn betrayal. Mae lluosrifau o 5 bob tro yn gorffen gyda 5.
Dyniaethau – Oedd Gandhi/Mandela yn heddychwyr?
Iaith –Ydi Ta Ta Trwyeryn yn nofel ffuglen neu’n ffeithiol?
Cymraeg- posib gwneud hyn gyda rheolau gramadegol.