Pwrpas:
Tasg er mwyn crisialu dealltwriaeth o eirfa tra’n annog cystadleuaeth rhwng disgyblion er mwyn ennyn eu diddordeb a datblygu eu gallu i esbonio’n hyderus.
Canllawiau:
• Mae angen i ddisgyblion eistedd mewn grwpiau o 4, mae pob disgybl yn cymryd troi ateb cwestiwn ar destun arbennig o fewn amser cyfyngiedig (e.e. 1 munud)
•Mae angen iddynt cynnwys cymaint o eirfa allweddol (mewn cyd-destun) ag sydd yn bosib fel rhan o’u hateb
•Mae geirfa hawdd werth 1 pwynt, rhai canolig gwerth 2 a geirfa heriol werth 3 pwynt
•Y dysgwr gyda’r sgôr mwyaf yw’r ennillydd
Athro:
• Dewis testun digon agored er mwyn i ddisgyblion cael digon i ddweud
• Dewis geirfa defnyddiol ar gyfer y testun er mwyn i ddisgyblion ei gynnwys
Dysgwr:
• Disgrifio yn glir, dewis geirfa yn ofalus (llinyn ieithyddol), gwrando yn ofalus tra’n sgorio eraill.
Enghreifftiau:
• Bioleg – ‘Esboniwch sut mae’r proses ffotosynthesis yn digwydd’ – gyda geiriau: cloroplast, cloroffyl, niwclews, cellbilen, golau, egni, CO2.
•Hanes – ‘Amlinellwch y digwyddiadau ac arweiniodd at ddechreuad yr Ail Ryfel Byd’–gyda geiriau: Hitler, Yr Almaen, Chamberlain, Rheinland, Sudetenland, Gwlad Pwyl, polisi dyhuddiad.