A fyddai'n well gyda chi?
Pwrpas:
•Ymarfer y sgil o resymu a chyfiawnhau.
CANLLAWIAU
•Rhoi dewisiadau i ddisgyblion i’w trafod.
•Ffordd hwylus o ymarfer trafod a chyfiawnhau barn.
Athro:
•Paratoi sleid gyda gwahanol osodiadau e.e. ‘A fyddai well gyda chi...?’ – A fyddai well gyda chi fod yn aderyn neu’n bysgodyn? A fyddai well gyda chi fyw yn y flwyddyn 2300 neu 1300? A fyddai’n well gyda chi fod yn dlawd ac yn hapus neu’n gyfoethog a thrist?
•Mae modd gwneud hyn ar lefel syml drwy dim ond cael y dysgwyr i ddewis y naill beth neu’r llall. Yna, adeiladu drwy gael y dysgwyr i ychwanegu rheswm i gyfiawnhau.
Disgybl:
•Trafod y cwestiwn/cwestiynau gan ddewis a chyfiawnhau ymatebion gan ddefnyddio’r patrymau brawddeg a gyflwynir gan yr athro.
enghreifftiau
1. Gweler yr uchod o dan athro.
2. Mae modd creu grid gyda nifer fawr o ddewisiadau syml arnynt i’w trafod.