Cymraeg Mewn Addysg
Mae ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg’ yn nodi uchelgais Llywodrath Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n cynnwys targedau i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gymwys i addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn nodi gweledigaeth ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru er mwyn gwneud yn siwr y byddant yn gallu defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Mae cynnig proffesiynol Partneriaeth ar gyfer y Gymraeg mewn addysg wedi ei ddatblygu er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu’r ffordd y maent yn addysgu’r Gymraeg, a’r ffordd y maent yn cynllunio ar gyfer twf y Gymraeg ar draws eu hysgolion.