Llwybr Dysgu i Gynorthwywyr Addysgu

Datblygwyd rhaglen genedlaethol o ddysgu proffesiynol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu ledled Cymru, sy'n cael ei chynnig gan bob Consortia Rhanbarthol.

Yn unol â'r Hawl Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol mae gan bob gweithiwr proffesiynol addysgol y cyfle i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad drwy ddysgu proffesiynol. Yn dibynnu ar brofiad a hyfforddiant blaenorol dylai fod modd nodi rhaglen ddatblygu addas sy'n briodol. Datblygwyd y Llwybr Dysgu i Gynorthwywyr Addysgu i gefnogi Cynorthwywyr Addysgu i nodi a chael mynediad at raglen ddatblygu sy'n briodol i'w hangen presennol.