Ôl-16
Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Ôl-16
Bydd y sesiwn DP yn gwneud y canlynol:
Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i gydweithwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth iddynt baratoi ar gyfer heriau arweinyddiaeth ôl-16 a’u hwynebu ac mae’n rhan o’r strategaeth genedlaethol ar gyfer cynllunio olyniaeth.
Mae’r pynciau a drafodir yn y rhaglen yn cynnwys:
• Deall rolau strategol a gweithredol arweinyddiaeth ôl-16
• Hunanarfarnu effeithiol a chynllunio ar gyfer gwella
• Cynllunio ymyrraeth a lles ar gyfer dysgwyr
• Adeiladu partneriaethau allanol ar gyfer arfer a darpariaeth effeithiol
• Darparu cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel i gefnogi pontio, dyheadau a chyrchfannau dysgwyr
Achrediad: Bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i ymgymryd â chymhwyster Arweinyddiaeth ILM Lefel 3 neu 5 ar ôl cwblhau’r rhaglen arweinyddiaeth. Mae’r cyfle hwn ar gael I’r holl gynrychiolwyr sydd wedi mynychu pob un o’r pedair sesiwn. Rhaid I ffioedd archredu gael eu talu gan yr unigolyn neu ysgol neu sefydliad yr unigolyn.
Cynulleidfa Darged:
Mae’r rhaglen datblygu arweinyddiaeth ôl-16 wedi’i hanelu at arweinwyr ôl-16 presennol, newydd neu ddarpar arweinwyr ôl-16 ac mae wedi’i dylunio i gynnig cyngor ymarferol am rôl arweinydd ôl-16.
Dyddiadau, lleoliad, amser:
Sesiwn 1: Hyfforddiant wyneb yn wyneb
Amser: 10:00-15:00 Dewiswch eich lleoliad/ dyddiad pan fyddwch yn cofrestru isod:
Dydd Mawrth 18 Hydref 2022 – Canolfan Fusnes Conwy, Gogledd Cymru neu
dydd Iau 27 Hydref – Gwesty’r Village Abertawe, De Cymru.
Hyfforddiant Cydamsersol drwy Teams: Amser: 09:00-12:00
Sesiwn 2: Dydd Mercher 23 Tachwedd, 2022
Sesiwn 3: Dydd Iau 26 Ionawr, 2023
Sesiwn 4: Dydd Mawrth 7 Mawrth, 2023
Dull darparu:
Mae’r rhaglen yn rhan annatod o waith y Consortia Addysg Cymraeg wrth gyflwyno’r cynnig cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Cyflwynir y rhaglen drwy fodel dysgu cyfunol a bydd y sesiwn gyntaf wyneb yn wyneb a chyflwynir sesiynau 3 x 3 awr pellach yn gydamserol ar Teams.
Hwyluswyr:
Bydd cydweithwyr rhanbarthol arbenigol ôl-16, arweinwyr ôl-16 profiadol presennol a/neu uwch arweinwyr yn cyflwyno’r sesiynau.
E-bost:
Diane.evans@partneriaeth.cymru
Ffurflen gofrestru:
https://forms.office.com/pages/responsepage.aspx?id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k0Q82gtcfw9EhmI7-pENmfhUNVBNVEZTODZWOTJMNkkwR0tOTDA1WEZXMi4u
Dyddiad cau: 11 Hydref 2022