Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro mewn tri cham, sy'n cael eu cynnal dros gyfnod o ddwy flynedd, ac mae'n ofynnol ymrwymo i'r hyn sy'n cyfateb i wyth niwrnod yn ystod y cyfnod hwn. Mae achrediad ffurfiol ar gael, a gall y cyfranogwyr ddewis mynd amdano.
Cam 1: Gwaith cyn-rhaglen, sy'n cynnwys trosglwyddo'n ffurfiol a 'hunanddadansoddiad' unigol yn unol â'r Safonau Arweinyddiaeth Ffurfiol.
Cam 2: Blwyddyn 1 o'r brifathrawiaeth. Bydd hwn yn cynnwys rhaglen ddatblygu bum niwrnod sy'n canolbwyntio ar gael yr wybodaeth leol y mae arnynt ei hangen, ynghyd â'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol i ddatblygu eu hysgol fel sefydliad sy'n dysgu.
Cam 3: Blwyddyn 2 o'r brifathrawiaeth. Dyma un diwrnod lle bydd y cyfranogwyr yn rhannu â'u cyd-weithwyr agwedd benodol ar wella ysgol y maent wedi ymgymryd â hi, a hefyd y modd y maent yn meithrin gallu yn eu hysgol.
Agweddau allweddol ar ddarparu’r rhaglen
· O ran ei chynllun, mae'n cyd-fynd â'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.
· Mae’r cynnwys yn seiliedig ar y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, Datblygu Ysgolion yng Nghymru fel Sefydliadau sy’n Dysgu ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl
· Mae hyd y rhaglen a dilyniant y gweithgareddau dysgu yn gyson ledled Cymru.
· Mae yna ddisgwyliadau cyffredin ynghylch y cynnydd y bydd y cyfranogwyr yn ei wneud a'r modd y bydd hyn yn effeithio ar eu harfer arwain.
· Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
· Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cymheiriaid i sicrhau cymorth trwy gydol y rhaglen.
Gwneud cais
Y disgwyliad yw y bydd y rhaglen yn cael ei chwblhau gan bob pennaeth newydd a phennaeth dros dro ledled Cymru, a byddant yn cael mynediad i'r rhaglen o'u mis Medi cyntaf yn eu swydd. [Mae penaethiaid dros dro yn gymwys os disgwylir iddynt fod yn eu swydd am o leiaf ddau dymor.]
Nid oes angen i benaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro gofrestru gan y bydd Partneriaeth yn cael enwau'r rhai sy'n gymwys i ddilyn y rhaglen trwy awdurdodau lleol partner.
Cydgysylltydd Partneriaeth
Rob Phillips
Hazel Faulkner