Y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Penaethiaid Profiadol

Mae'r rhaglen hon yn un ar gyfer penaethiaid profiadol sy'n dymuno datblygu eu harfer cyfredol ymhellach. Mae'n darparu cyfle dysgu proffesiynol i benaethiaid profiadol fyfyrio ar eu perfformiad presennol a phennu eu camau nesaf i sicrhau arweinyddiaeth effeithiol.


Bydd y cyfranogwyr yn:

• Myfyrio ar eu harddull arwain eu hunain a'r modd y mae eu harweinyddiaeth yn effeithio ar eraill

• Myfyrio ar amrywiaeth o arddulliau arwain

• Deall damcaniaeth newid a'r modd y mae hyn yn effeithio ar eu harweinyddiaeth ar y daith ddiwygio weddnewidiol

• Cydweithio ag eraill i arwain eu hysgolion yn effeithiol ac i sicrhau effaith gadarnhaol ar arweinyddiaeth ledled Cymru

• Sefydlu diwylliant ac arfer arloesi priodol ledled eu hysgol a'r tu hwnt iddi

Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro i bedwar cam dros gyfnod o ddwy flynedd:

Cam 1: Proses Ymgeisio Genedlaethol

Cam 2: Cwblhau'r adolygiad a'r adborth cylch cyfan o arweinyddiaeth

Cam 3: Rhaglen Graidd. Bydd hon yn cynnwys pedwar diwrnod datblygu yn ystod dau gyfnod preswyl, a fydd yn canolbwyntio ar adolygu arweinyddiaeth a rheoli newid yn rhan o'r daith ddiwygio weddnewidiol.

Cam 4: Cyfranogiad gweithredol trwy Gymunedau Ymarfer mewn o leiaf ddau fodiwl ychwanegol

Yr Agweddau Allweddol ar Ddarparu'r Rhaglen

· Bydd y sesiynau ffurfiol yn defnyddio lleoliadau yng Nghanolbarth Cymru, a bydd y carfanau wedi'u ffurfio o gyfranogwyr o bob un o'r pedwar rhanbarth.

· Bydd modiwlau pwrpasol yn cael eu trefnu mewn ymateb i angen a galw, a byddant yn seiliedig ar ddull 'dysgu cyfunol'.

· Mae'r rhaglen yn anelu at fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd e-ddysgu a thechnoleg, a bydd yr holl gynnwys dysgu, ymchwil a chyfarwyddiadol ar gael yn ddigidol. Dyma hefyd fydd y prif ddull o gasglu a chyfnewid gwybodaeth a dysgu.

· Neilltuir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i bob cyfranogwr, a bydd yn ofynnol iddo gydweithio yn rhan o Gymuned Ymarfer (grŵp o benaethiaid profiadol sy'n rhannu pwrpas cyffredin).

· Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.

· Bydd y gwaith cyflawni’n cael ei gydgysylltu gan y consortia rhanbarthol a’u partneriaid, sy’n cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg uwch ac Eliesha Training.

Gwneud cais

Ceir mynediad at y rhaglen hon trwy broses ymgeisio genedlaethol, manylion i ddilyn..

Cydgysylltydd Partneriaeth

Rob Phillips

Ruth Lee

Hazel Faulkner