Tegwch a Lles

Wrth galon Cwricwlwm i Gymru mae'r ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr i fod yn iach, yn hyderus, yn foesegol, yn wybodus, yn fentrus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog. Dim ond os oes dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, tegwch mewn addysg a phwysigrwydd lles dysgwyr y gellir cyflawni hyn.  Mae tegwch ym myd addysg yn golygu rhoi'r adnoddau, cymorth a phrofiadau dysgu i bob dysgwr sy'n diwallu eu hanghenion gan eu galluogi i lwyddo. Ni ddylai amgylchiadau unigol a chymdeithasol fod yn rhwystr i gyflawni potensial addysgol. Mae tegwch mewn addysg yn gofyn am systemau, yn yr ysgol, ar lefel leol a chenedlaethol yn ystyried, ac yn ymateb i'r heriau unigryw sy'n cyflwyno eu hunain i unigolion neu grwpiau o ddysgwyr. Gellir deall lles fel sut mae pobl yn teimlo a sut maen nhw'n gweithredu, ar lefel bersonol a chymdeithasol, a sut maen nhw'n gwerthuso eu bywydau yn gyffredinol.

Datblygwyd Cynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Tegwch a Lles er mwyn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall sut i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella cynhwysiant i bawb.