Cymraeg Mewn Addysg
Mae ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg’ yn nodi uchelgais Llywodrath Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n cynnwys targedau i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gymwys i addysgu’r Gymraeg fel pwnc ac i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn nodi gweledigaeth ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru er mwyn gwneud yn siwr y byddant yn gallu defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Mae cynnig proffesiynol Partneriaeth ar gyfer y Gymraeg mewn addysg wedi ei ddatblygu er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu’r ffordd y maent yn addysgu’r Gymraeg, a’r ffordd y maent yn cynllunio ar gyfer twf y Gymraeg ar draws eu hysgolion.
Hanes yr Iaith Gymraeg
Disgrifiad :
Cyfres o fideos i ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn edrych ar darddiad ac esblygiad y Gymraeg hyd at heddiw
Cynulleidfa Darged:
Ymarferwyr ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg
Dyddiadau, Lleoliadau ac Amseroedd:
Tymor yr hydref
Dolen i fideo'r lansiad a'r adnoddau - https://www.partneriaeth.cymru/cy/collection/fideos-hanes-yr-iaith
Dull darparu:
Lansiad ar-lein
Hyrwyddwyr:
GS / LD
Ebost:
Gwennan.schiavone@partneriaeth.cymru
Lowri.davies@partneriaeth.cymru