Y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – paratoi ar gyfer yr CPCP

Mae'r rhaglen hon ar gyfer darpar benaethiaid i'w paratoi ar gyfer ymgymryd â'r asesiad gofynnol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Mae’n rhaglen bum modiwl a fydd yn cael ei chyflwyno dros gyfnod o dri thymor yn ystod dwy flynedd academaidd. Bydd yn cychwyn ddechrau tymor y gwanwyn ac yn cael ei chwblhau erbyn diwedd tymor yr hydref. Mae cwblhau'r rhaglen hon yn ddisgwyliad i bob darpar ymgeisydd ar gyfer yr CPCP.


Darperir y rhaglen genedlaethol hon gan Partneriaeth a Chonsortia Rhanbarthol eraill, ynghyd â'u partneriaid, sy'n cynnwys awdurdodau lleol. Mae wedi cael cymeradwyaeth gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.


Mae'r rhaglen hon, yn rhan o'r cynnig dysgu proffesiynol, ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy'n credu ei fod yn amlygu cyrhaeddiad yn ôl y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar ei gyfer.


Mae'r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio'r berthynas rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a'r gymuned ehangach.


Bydd y rhaglen yn galluogi'r cyfranogwyr i fyfyrio ar eu harfer proffesiynol eu hunain, ac i sicrhau eu bod wedi paratoi'n dda pan fyddant yn gwneud cais i ymgymryd ag asesiad ffurfiol ar gyfer y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).


Modiwl 1 – Gwneud Gwahaniaeth

Trosolwg o'r Rhaglen, gan gynnwys rôl yr Hyfforddwr Arweinyddiaeth a rhwydweithio

Rôl y Pennaeth

Ble'r ydym ni? – cyd-destun addysg yng Nghymru

Gweledigaeth – beth yw eich gweledigaeth? Datblygu gweledigaeth a rennir.

Cynllunio a Phrosesau Strategol – yr Adolygiad Hunanwerthuso a'r Cynllun Gwella Ysgol

Profiad o Arweinyddiaeth

Modiwl Datblygu 2 – Arweinyddiaeth (i)

Beth yw arweinyddiaeth effeithiol?

Pa fath o arweinydd ydw i?

Timau Effeithiol

Adnoddau Dynol

Modiwl Datblygu 3 – Arweinyddiaeth (ii)

Arddulliau Arwain – Cydweithredol, Dosbarthedig,

Trawsnewidiol, Sefyllfaol

Rheoli Newid

Iechyd a Diogelwch

Modiwl Datblygu 4 – Arwain Addysgeg

Rôl y Pennaeth mewn Addysgu a Dysgu

Sicrhau Ansawdd

Defnyddio Data

Mesur ac Adrodd am Effaith

Rheoli adnoddau, gan gynnwys Cyllid

Modiwl Datblygu 5 – Datblygu gweithlu'r ysgol mewn modd effeithiol

Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu

Cynnal diwylliant cydweithredol yn yr ysgol

a'r tu hwnt iddi

Cefnogi twf pobl eraill

Meithrin ac arwain diwylliant o arloesedd

Atebolrwydd yr hunan ac eraill, gan gynnwys

datblygu trefniadau llywodraethu effeithiol

Diogelu

Ar ôl y rhaglen

Ailedrych ar eich Hunanadolygiad o'r Safonau Arweinyddiaeth

Penderfynu ar eich parodrwydd ar gyfer asesiad yr CPCP


Agweddau Allweddol ar ddarparu'r Rhaglen

Bydd y rhaglen hon yn cael ei darparu dros gyfnod o flwyddyn galendr. Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o'r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.

Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cymheiriaid i sicrhau cymorth trwy gydol y rhaglen.


Gwneud cais

Ceir mynediad at y rhaglen hon trwy broses ymgeisio genedlaethol. Ynghyd â'u ffurflen gais, bydd angen i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno Hunanadolygiad o'r Safonau Arweinyddiaeth.


Cydgysylltydd Partneriaeth


Rob Phillips

Hazel Faulkner