Defnydd Effeithiol o'r Grant Datblygu Disgyblion
Wrth galon Cwricwlwm i Gymru mae'r ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr i fod yn iach, yn hyderus, yn foesegol, yn wybodus, yn fentrus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog. Dim ond os oes dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, tegwch mewn addysg a phwysigrwydd lles dysgwyr y gellir cyflawni hyn.
Datblygwyd Cynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Tegwch a Lles er mwyn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall sut i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella cynhwysiant i bawb.