Mae'r llwybr yn adlewyrchu egwyddorion a strategaethau cenedlaethol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth.
Yn rhan o’i gynnig Dysgu Proffesiynol, mae Partneriaeth, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol eraill, wedi cynllunio a pharatoi Rhaglen Arweinyddiaeth draws-sector gynhwysfawr sy’n seiliedig ar yr egwyddorion cenedlaethol hyn ac sy’n cynnwys y rhaglenni arweinyddiaeth cenedlaethol a restrir isod.
Y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Arweinwyr Canol*
Y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Uwch-arweinwyr
Y Rhaglen i Ddatblygu Darpar Benaethiaid (Paratoi ar gyfer yr CPCP)*
Y Rhaglen i Benaethiaid Newydd eu Penodi a Phenaethiaid Dros Dro*
Y Rhaglen i Benaethiaid Profiadol*
* Mae'r rhaglenni hyn 'nawr yn rhaglenni cenedlaethol, ac wedi cael cymeradwyaeth swyddogol gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.
Mae pob un o'r rhaglenni hyn yn seiliedig ar y dull cenedlaethol mewn perthynas â dysgu proffesiynol, sy’n cynnwys y canlynol:
Dysgu cydweithredol fel bod y naill yn datblygu'r llall ar lefel cymheiriaid
Arfer myfyriol, a hynny trwy fynd ati rhwng y gweithdai i gymhwyso'r dysgu yn ôl yn yr ysgol
Hyfforddi a mentora trwy Hyfforddwr Arweinyddiaeth
Mynd i'r afael â data a thystiolaeth berthnasol o ymchwil yng nghyd-destun y rhaglen
Dull dysgu proffesiynol cyfunol, gan gynnwys sesiynau dysgu proffesiynol uniongyrchol, yn ogystal ag e-ddysgu
Rhaglen sy'n cael ei hategu gan egwyddorion sefydliadau dysgu effeithiol