Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Thrawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Wrth galon Cwricwlwm i Gymru mae'r ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr i fod yn iach, yn hyderus, yn foesegol, yn wybodus, yn fentrus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog. Dim ond os oes dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, tegwch mewn addysg a phwysigrwydd lles dysgwyr y gellir cyflawni hyn. 

Datblygwyd Cynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Tegwch a Lles er mwyn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall sut i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella cynhwysiant i bawb.

Deall Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a'u heffaith ar ddysgwyr

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gwneud y canlynol:
  • Deall bod Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn brofiadau trawmatig yn ystod plentyndod sy'n achosi i blant ddioddef dro ar ôl tro.
  • Deall bod y profiadau'n gallu achosi niwed uniongyrchol i blentyn (e.e. camdriniaeth) neu effeithio'n anuniongyrchol ar blentyn trwy'r amgylchedd y mae'n byw ynddo (e.e. tyfu i fyny ar aelwyd lle mae trais domestig yn digwydd.)
  • Deall y gall y trawma sy'n deillio o'r profiadau hyn barhau i effeithio ar bobl pan fyddant yn oedolion, ymhell wedi'r digwyddiad(au).
  • Deall bod gwell dealltwriaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u heffaith ar fywyd pob dydd plant yn allweddol o ran datblygu darpariaeth deg yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol gyfan.
  • Wedi cael cyfle i ddatblygu dealltwriaeth dda o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'r camau y gallant eu rhoi ar waith yn eu lleoliadau eu hunain.


Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)

I'w Gadarnhau

Amseroedd

Sesiwn ddwyawr (Bob Tymor)

Dull Cyflwyno

Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr

Lleoliad(au)

I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir

Hwylusydd

I'w Gadarnhau

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Datblygu Arferion Gwybodus o Drawma

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o drawma, yr effaith ar ddysgwyr a strategaethau i ddatblygu dull ysgol gyfan o fod yn wybodus o drawma

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
  • Deall pam a sut y mae nifer cynyddol o blant yn cael anawsterau ymlyniad yn dilyn dod i gysylltiad â thrawma.
  • Wedi cael cyfle i ddeall beth y mae bod yn ystyriol o drawma yn ei olygu a sut y gall effeithio ar lesiant yr ysgol gyfan.
  • Wedi cael cyfle i gael eu hyfforddi gan sefydliad Ysgolion sy'n Ystyriol o Drawma yn y Deyrnas Unedig ac elwa'n uniongyrchol o'u profiad helaeth a'u gwybodaeth arbenigol am gynorthwyo dysgwyr sydd â phrofiad o drawma.


Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)

I'w Gadarnhau

Amseroedd

Sesiwn tairawr (Bob Tymor)

Dull Cyflwyno

Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr

Lleoliad(au)

I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir

Hwylusydd

Trauma Informed Schools

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Datblygu Rheoleiddio Synhwyraidd yn yr Ystafell Ddosbarth

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o reoleiddio synhwyraidd a'r cysylltiad ag ymddygiad a chyfathrebu

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gwneud y canlynol:
  • Deall sut y bydd plant â thrawma datblygiadol yn aml yn ei chael yn anodd iawn rheoleiddio eu hunain – o ran eu hemosiynau a'u hymddygiad – ac yn creu heriau enfawr i ysgolion o ran eu cynorthwyo mewn modd effeithiol.
  • Wedi ymgymryd â rhaglen hyfforddi a fydd yn datblygu gwybodaeth am reoleiddio synhwyraidd a dealltwriaeth ohono a chael syniadau ar gyfer gweithgareddau ymarferol ac adnoddau.
  • Wedi cael cyfle i gwblhau 2 sesiwn deirawr a gyflwynir gan Adenydd a fydd yn defnyddio eu profiad helaeth a'u gwybodaeth arbenigol am gynorthwyo dysgwyr sydd ag anawsterau rheoleiddio synhwyraidd


Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)

I'w Gadarnhau

Amseroedd

2 Sesiwn deirawr (Bydd angen cwblhau'r ddwy sesiwn) (Bob tymor)

Dull Cyflwyno

Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr

Lleoliad(au)

I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir

Hwylusydd

Adenydd

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Defnyddio Chwarae Sy'n Seiliedig ar Berthnasoedd

Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o RBP a dysgu strategaethau a gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gwneud y canlynol:
  • Deall sut a pham y mae Chwarae sy'n Seiliedig ar Berthnasoedd yn darparu dull clir i ymarferwyr ar gyfer chwarae strwythuredig.
  • Deall sut y gellir ei ymgorffori yn yr ymarfer beunyddiol er mwyn cefnogi dysgwyr ar yr adeg hon i feithrin cysylltiadau, datblygu ymdeimlad o hunaneffeithlonrwydd, a choleddu teimladau o ddiogelwch, tawelwch a gobaith
  • Wedi ymgymryd â sesiwn a gyflwynir gan Helen Worrall sy'n defnyddio'i phrofiad helaeth a'i gwybodaeth arbenigol am gynorthwyo dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais.

Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)

I'w Gadarnhau

Amseroedd

Sesiwn ddwyawr (Bob Tymor)

Dull Cyflwyno

Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr

Lleoliad(au)

I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir

Hwylusydd

Helen Worrall

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Cyflwyniad i Hyfforddiant ar Emosiynau

Cyfle i ddysgu am Hyfforddiant ar Emosiynau, sut y gall gefnogi dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a'r llwybr i achredu.

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y rhai sy'n bresennol wedi:
  • Cael cyfle i ddysgu am Hyfforddiant ar Emosiynau a'r effaith y gall ei chael yn yr ystafell ddosbarth
  • Cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Dr Janet Rose a chael gwybodaeth lawn am y Cwrs Hyfforddiant ar Emosiynau achrededig a'r disgwyliadau ac ati


Cynulleidfa Darged

Llywodraethwyr, rhieni, staff awdurdodau lleol, staff ysgol

Dyddiad(au)

30 Tachwedd

Amseroedd

17:30-19:00

Dull Cyflwyno

Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr

Lleoliad(au)

Zoom

Hwylusydd

Dr Janet Rose

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Achrediad Hyfforddiant ar Emosiynau

Rhaglen Hyfforddiant ar Emosiynau sy'n arwain at achrediad

Erbyn diwedd y rhaglen hon, bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gwneud y canlynol:
  • Deall bod Hyfforddiant ar Emosiynau yn ddull ysgol gyfan sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n seiliedig ar yr egwyddor bod perthnasoedd gofalgar, sy'n gefnogol yn emosiynol, yn darparu'r cyd-destun gorau posibl ar gyfer hyrwyddo dysgu cymdeithasol, emosiynol ac academaidd.
  • Deall bod Hyfforddiant ar Emosiynau yn defnyddio adegau o emosiwn dwysach, a'r ymddygiad sy'n deillio o hynny, i arwain ac addysgu'r plentyn a'r person ifanc am ymatebion mwy effeithiol. Drwy ymgysylltu empathetig, caiff cyflwr emosiynol y plentyn ei gydnabod ar lafar a'i gadarnhau, gan beri i'r plentyn deimlo'n ddiogel ac wedi'i ddeall. Mae hyn yn ysgogi newidiadau yn system niwrolegol y plentyn ac yn caniatáu iddo ymdawelu yn ffisiolegol ac yn seicolegol.
  • Deall bod Hyfforddiant ar Emosiynau yn seiliedig ar yr egwyddor bod perthnasoedd sy'n meithrin ac yn gefnogol yn emosiynol yn darparu'r cyd-destunau gorau posibl ar gyfer hyrwyddo deilliannau plant a'u gwytnwch.
  • Ymuno â'r nifer cynyddol o ysgolion ac ymarferwyr ledled rhanbarth Partneriaeth lle darparwyd Hyfforddiant ar Emosiynau i arweinwyr ac ymarferwyr ers Ionawr 2020
(Sylwch fod hon yn rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n golygu cyflawni nifer o ddiwrnodau hyfforddi a gweithgareddau parhaus er mwyn sicrhau'r achrediad)

Cynulleidfa Darged

Arweinwyr ac ymarferwyr ysgol

Dyddiad(au)

2 ddiwrnod (21 a 29 Tachwedd) 2 weithdy 90 munud (11 Ionawr a 13 Chwefror)

Amseroedd

09:00 - 15:30 13:30-15:00

Dull Cyflwyno

Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr

Lleoliad(au)

Zoom

Hwylusydd

Dr Janet Rose

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Defnyddio Dulliau Adferol

Cyfle i ddysgu am ddulliau adferol yn yr ystafell ddosbarth a'r cysylltiad â pherthnasau ac ymddygiad cadarnhaol.

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gwneud y canlynol:
  • Deall sut a pham y defnyddir dulliau adferol, a rôl sgyrsiau cynhwysol a sut y gellir eu defnyddio yn rhan o ddull ysgol gyfan er mwyn datblygu addysgu a dysgu, iechyd meddwl a llesiant.


Cynulleidfa Darged

Uwch-arweinwyr / Aelodau o staff sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb ym maes cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais

Dyddiad(au)

I'w Gadarnhau

Amseroedd

I'w Gadarnhau

Dull Cyflwyno

Sesiwn ddwyawr (Bob tymor)

Lleoliad(au)

I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir

Hwylusydd

I'w Gadarnhau

Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Datblygu Gwydnwch

I'w Gadarnhau




Cynulleidfa Darged


Dyddiad(au)


Amseroedd


Dull Cyflwyno


Lleoliad(au)


Hwylusydd


Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru

Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

I'w Gadarnhau




Cynulleidfa Darged


Dyddiad(au)


Amseroedd


Dull Cyflwyno


Lleoliad(au)


Hwylusydd


Cyswllt eBost

Dylan.williams@partneriaeth.cymru