Cynlluniwyd y rhaglen hon o dair sesiwn hyfforddi i gynorthwyo unrhyw aelod o staff ysgol neu ALl sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb ym maes cefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o ofal, a bydd modd ei chwblhau fel pecyn neu fel sesiynau unigol.
Erbyn diwedd y sesiynau hyn, bydd y rhai sy'n bresennol wedi:
Cael eu cyflwyno i rôl Arweinydd Dynodedig Plant sy'n Derbyn Gofal;
Dod i Ddeall Anawsterau Ymlyniad
Dysgu sut i Ddefnyddio'r Rhestr Wirio Arsylwi ar Ymlyniad.
Cyflwynir y rhaglen fanwl hon o hyfforddiant gan Helen Worrall (Ymgynghorydd Addysg Annibynnol) sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais ac sy'n defnyddio dull gweithredu craff a phersonol yn ei sesiynau.
Cynulleidfa DargedUwch-arweinwyr / Aelodau o staff sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb ym maes cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
3 Sesiwn ddwyawr (Ailadrodd Bob tymor)
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Helen Worrall (Ymgynghorydd Addysg Annibynnol)
Dylan.williams@partneriaeth.cymru