Y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Arweinwyr Canol
Mae'r rhaglen genedlaethol hon ar gael i bob arweinydd canol ledled Cymru sy'n ysgwyddo meysydd cyfrifoldeb a/neu gyfrifoldeb rheoli llinell dros staff. Cyflwynir y rhaglen gan gonsortia a phartneriaethau rhanbarthol, ac mae’n hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol trwy hunanwerthusiad a myfyrdod, gan archwilio’r perthnasoedd rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach.
Yn rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol, bydd cyfranogwyr, trwy’r rhaglen hon, yn:
• datblygu dealltwriaeth o’r rôl
• datblygu eu dealltwriaeth o'r agenda diwygio cenedlaethol ymhellach
• datblygu eu hymarfer yn unol â'r safonau arweinyddiaeth ffurfiol
• paratoi ar gyfer ymgysylltiad effeithiol ag elfennau unigol o wybodaeth a sgiliau arbenigol;
Meysydd Dysgu a Phrofiad, ADY, y Gymraeg, ysgolion ffydd, ysgolion bach, ac ati
Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys:
Modiwl 1
Beth yw Arweinyddiaeth Ganol effeithiol yn y cyd-destun cyfredol? – mae'n cynnwys safonau, Cenhadaeth ein Cenedl, Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu.
Modiwl 2
Arwain Addysgeg, gan ddarparu addysgu a dysgu effeithiol – mae'n cynnwys arferion monitro effeithiol a dadansoddi canlyniadau monitro. Atebolrwydd, rolau a chyfrifoldebau'r hunan ac eraill.
Modiwl 3
Rheoli: strategaethau, strwythurau a systemau. Mae'n cynnwys cynllunio ar gyfer gwella a rheoli adnoddau ariannol a dynol.
Modiwl 4
Cyflawni mwy trwy gydweithrediad effeithiol. Mae'n cynnwys llesiant ac ymgysylltiad effeithiol, a gweithio gyda'r holl randdeiliaid ac asiantaethau allanol.
Modiwl 5
Gwerthuso ac Effaith. Mae'r cyfranogwyr yn cyflwyno i'w grŵp cymheiriaid y modd y maent wedi datblygu yn rôl yr arweinydd, a sut y mae eu camau gweithredu yn amlygu effaith ar safonau.
Gwneud cais
Ceir mynediad at y rhaglen hon trwy broses ymgeisio genedlaethol, y mae'r manylion amdani i'w gweld yma.
Agweddau allweddol ar gyflwyno’r rhaglen
Bydd y rhaglen yn cael ei darparu gan ddefnyddio dulliau dysgu cyfunol.
Yn ychwanegol at hyn, bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â Thasg Profiad o Arweinyddiaeth, a hynny gan ddefnyddio'r canfyddiadau ymchwil mwyaf diweddar i ddatblygu ei sgiliau arwain.
Yn ogystal, bydd mentor yn yr ysgol yn cael ei neilltuo ar gyfer pob cyfranogwr, a bydd yn cefnogi’r cyfranogwr mewn perthynas â'r canlynol:
· Datblygu dealltwriaeth bellach o'r disgwyliadau a'r her sydd ynghlwm wrth rôl arweinydd canol
· Gwella hunanymwybyddiaeth a datblygu sgiliau ac arferion myfyrio personol
· Gwella ei allu i ddelio â phroblemau a pherthnasoedd cymhleth
· Gwella ei allu i arwain trwy ddylanwadu ac ymgysylltu
Cydgysylltydd Partneriaeth
Jan Waldron
Hazel Faulkner