Addysgeg
Mae addysgeg wrth wraidd cwricwlwm. Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddyn nhw. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n cynnwys archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.
Metawybyddiaeth gyda Mike Gershon
Rhan Un: Yn y gweithdy dysgu proffesiynol hwn, bydd Mike yn rhannu syniadau ymarferol allweddol ynghylch metawybyddiaeth, a hynny ochr yn ochr â rhai o’r ffyrdd symlaf, mwyaf effeithiol y gall unrhyw ysgol ddechrau meddwl am strategaethau metawybyddol, siarad amdanynt a’u rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth.
Mae metawybyddiaeth yn dod i'r brig yn gyson fel un o'r ymyriadau addysgu a dysgu mwyaf pwerus y gall unrhyw ysgol ganolbwyntio arno i wella cyflawniad. Ar frig Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu y Sefydliad Gwaddol Addysgol, mae metawybyddiaeth yn fwy perthnasol 'nawr nag erioed. Mae heriau’r pandemig wedi golygu bod llawer o ddysgwyr yn gweld eu sgiliau dysgu annibynnol yn syrthio'n ôl. Trwy ganolbwyntio ar fetawybyddiaeth, gall ysgolion helpu dysgwyr i ailafael yn eu dysgu, myfyrio ar eu hymdrechion, a theimlo, unwaith eto, fod ganddynt reolaeth dros y broses ddysgu. Yn yr hyfforddiant hwn, bydd Mike yn rhannu syniadau ymarferol allweddol ynghylch metawybyddiaeth, a hynny ochr yn ochr â rhai o'r ffyrdd symlaf, mwyaf effeithiol y gall unrhyw ysgol ddechrau meddwl am strategaethau metawybyddol, siarad amdanynt a'u rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n dair sesiwn:
Sesiwn 1: Deall Metawybyddiaeth y Tu Mewn i'r Ystafell Ddosbarth
Sesiwn 2: Gwneud Metawybyddiaeth yn Rhan Ymarferol o'ch Ystafell Ddosbarth
Sesiwn 3: Gweithredu a Datblygu Adnoddau
Mae Mike yn cynnal tri gweithdy dysgu proffesiynol ar gyfer y rhanbarth ar Fetawybyddiaeth, Holi ac Asesu ar gyfer Dysgu – mae pob gweithdy ar gael i'w archebu'n unigol, er bod presenoldeb yn y tri yn cael ei annog gan eu bod yn cyd-fynd â'i gilydd i ffurfio un cyfanwaith.
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion, ymarferwyr (Cynradd ac Uwchradd)
Dyddiad(au)
1 x diwrnod – dydd Iau 9 Chwefror 2023
Amser
Diwrnod llawn: 09:30-16:00
Dull darparu
Wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
Y Halliwell, Caerfyrddin
Hwylusydd
Jenna Gravelle – Ymgynghorydd Arweiniol
E-bost cyswllt
Jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=Ug4_TzS3ZEGUCRtgHRR5k04gWmw0vcdBgFKUgeRFF-xUNVdDRTZFTjhUQkFBUTcwOE00VjNQU1dNSi4u
Cwestiynu gyda Mike Gershon
Rhan Dau: Yn y gweithdy dysgu proffesiynol hwn, bydd Mike yn plymio’n ddwfn i faes holi, gan eich helpu i feddwl am natur holi yn yr ystafell ddosbarth, sut y mae cwestiynau’n llywio ac yn cyfeirio meddwl y dysgwr, a beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer addysgu a dysgu.
Mae ymchwil yn awgrymu y bydd athro yn gofyn tua 1.75 miliwn o gwestiynau ledled gyrfa ddeng mlynedd ar hugain o hyd. Mae hynny'n llawer o gwestiynau! Mae hefyd yn golygu llawer o gyfleoedd i ymestyn a herio dysgwyr, i ysgogi'r broses o feddwl yn greadigol, i wirio dealltwriaeth ac i ddatgloi gorwelion newydd. Yn yr hyfforddiant hwn, bydd Mike yn plymio’n ddwfn i faes holi, gan eich helpu i feddwl am natur holi yn yr ystafell ddosbarth, sut y mae cwestiynau’n llywio ac yn cyfeirio meddwl y dysgwr, a beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer addysgu a dysgu. Gyda’n gilydd, byddwn yn edrych ar ac yn treialu ystod eang o dechnegau a strategaethau holi; byddwn yn archwilio dulliau creadigol a beirniadol o gwestiynu yn yr ystafell ddosbarth y gallwch eu haddasu a’u newid fel eu bod wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer eich dysgwyr chi.
Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n dair sesiwn:
Sesiwn 1: Beth sy'n digwydd pan fyddwn yn gofyn cwestiwn?
Sesiwn 2: Strategaethau Holi Beirniadol a Chreadigol ar gyfer Eich Ystafell Ddosbarth
Sesiwn 3: Gweithredu a Datblygu Adnoddau
Mae Mike yn cynnal tri gweithdy dysgu proffesiynol ar gyfer y rhanbarth ar Fetawybyddiaeth (9/02/23), Holi ac Asesu ar gyfer Dysgu (18/04/23) – mae pob gweithdy ar gael i'w archebu'n unigol, er bod presenoldeb yn y tri yn cael ei annog gan eu bod yn cyd-fynd â'i gilydd i ffurfio un cyfanwaith.
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion, ymarferwyr (Cynradd ac Uwchradd)
Dyddiad(au)
1 x diwrnod – dydd Iau 2 Mawrth 2023
Amser
Diwrnod llawn: 09:30-16:00
Dull darparu
Wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
Y Village, Abertawe
Hwylusydd
Jenna Gravelle – Ymgynghorydd Arweiniol
E-bost cyswllt
Jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
Asesu ar gyfer Dysgu gyda Mike Gershon
Rhan Tri: Yn y gweithdy dysgu proffesiynol hwn, bydd Mike yn eich tywys trwy hanfodion Asesu ar gyfer Dysgu, gan symleiddio pethau a'u cysylltu bob cyfle â realiti ymarferol yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn dod i wybod am dri philer Asesu ar gyfer Dysgu Mike, beth ydynt, pam y maent o bwys, a'r modd y gallwch ffocysu eich addysgu o'u cwmpas, a sicrhau budd i'ch dysgwyr ar y daith.
Mae Asesu ar Gyfer Dysgu yn cadw ei effeithiolrwydd a’i berthnasedd heddiw, a hynny fwy nag ugain mlynedd wedi i Dylan Wiliam a Paul Black gyhoeddi eu pamffled arloesol, Inside the Black Box. Mae daliadau craidd Asesu ar Gyfer Dysgu yn ymwneud yn sylfaenol ag addysgu a dysgu effeithiol ac effeithlon. Pan fydd Asesu ar Gyfer Dysgu wedi’i wreiddio’n go iawn yn yr ystafell ddosbarth, rydym yn gweld athrawon a dysgwyr yn gwneud y mwyaf o effaith eu hymdrechion, sydd wedyn yn golygu bod deilliannau cadarnhaol yn ganlyniad anochel. Yn yr hyfforddiant hwn, bydd Mike yn eich tywys trwy hanfodion Asesu ar gyfer Dysgu, gan symleiddio pethau a'u cysylltu bob cyfle â realiti ymarferol yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn dod i wybod am dri philer Asesu ar gyfer Dysgu Mike, beth ydynt, pam y maent o bwys, a'r modd y gallwch ffocysu eich addysgu o'u cwmpas, a sicrhau budd i'ch dysgwyr ar y daith.
Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n dair sesiwn:
Sesiwn 1: Datgloi Asesu ar gyfer Dysgu
Sesiwn 2: Strategaethau Ymarferol Asesu ar gyfer Dysgu: Y Tri Philer
Sesiwn 3: Gweithredu a Datblygu Adnoddau
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion, ymarferwyr (Cynradd ac Uwchradd)
Dyddiad(au)
1 x diwrnod – dydd Mawrth 18 Ebrill 2023
Amser
Diwrnod llawn: 09:30-16:00
Dull darparu
Wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
Y Halliwell, Caerfyrddin
Hwylusydd
Jenna Gravelle – Ymgynghorydd Arweiniol
E-bost cyswllt
Jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu
Rhaglen bum rhan yn edrych ar y modd y gall ysgolion ddefnyddio'r model Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu fel sail ar gyfer datblygiad parhaus; gan amlygu’n benodol gryfderau allweddol, meysydd i’w datblygu a ffyrdd effeithiol o weithio i alluogi’r holl staff i ddatblygu’n broffesiynol.
Rhaglen bum rhan yn edrych ar y modd y gall ysgolion ddefnyddio'r model Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu fel sail ar gyfer datblygiad parhaus; gan amlygu’n benodol gryfderau allweddol, meysydd i’w datblygu a ffyrdd effeithiol o weithio i alluogi’r holl staff i ddatblygu’n broffesiynol. Mae gan y rhaglen gynllun hyblyg lle bydd y cyfranogwyr yn gallu ystyried anghenion penodol eu lleoliad eu hunain. Bydd y cymorth pwrpasol a ddarperir gan Partneriaeth a’r ysgol arweiniol, yn tywys cyd-weithwyr trwy ddetholiad o brosesau a ddewiswyd yn ofalus, gan gynnwys:
1. Datblygu dealltwriaeth glir o ysgol fel sefydliad sy'n dysgu – Beth y mae bod yn sefydliad sy'n dysgu yn ei olygu?
2. Hyfforddiant pwrpasol i nodi ffyrdd o symud ymlaen.
3. Datblygu eraill trwy ddod yn sefydliad sy'n dysgu.
4. Nodi ffyrdd ymlaen fel sefydliad sy'n dysgu.
Cynulleidfa Darged
Penaethiaid ac arweinwyr ysgolion (Cynradd ac Uwchradd)
Dyddiad(au)
2 x 1/2 diwrnod, 3 x diwrnod llawn (Hydref-Chwefror 2023)
Amser
Hanner Diwrnodau: 13:00-16:00
Diwrnodau llawn: 09:30-16:00
Dull darparu
Wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
Y Llwyfan,
Caerfyrddin
Hwylusydd
Jenna Gravelle – Cynghorydd Arweiniol
E-bost cyswllt
Sgiliau sy'n Hanfodol i'r Pedwar Diben – Creadigrwydd ac Arloesedd 'I mewn i'r Ystafell Ddosbarth'
Gan weithio gyda'r Athro Christian Byrge, dyma weithdy dysgu proffesiynol y mae ei ffocws ar sgiliau cyfannol Creadigrwydd ac Arloesedd, elfennau sy’n sail i’r pedwar diben ac y dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu.
Gan weithio gyda'r Athro Christian Byrge, dyma weithdy dysgu proffesiynol y mae ei ffocws ar sgiliau sgiliau cyfannol Creadigrwydd ac Arloesedd, elfennau sy’n sail i’r pedwar diben ac y dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu. Wrth wraidd y sgiliau hyn y mae'r pwysigrwydd bod dysgwyr yn cydnabod, yn defnyddio ac yn creu mathau gwahanol o werth dysgu. Mae’r sesiynau ymarferol, cydweithredol hyn yn edrych ar:
1. Beth yw creadigrwydd ac arloesedd o ran bod yn sgiliau cyfannol i athrawon, a pham y maent yn sail i bedwar diben Cwricwlwm i Gymru.
2.Ymchwil, trafodaeth gydweithredol, ac adnoddau ymarferol 'hawdd eu haddasu' i'w treialu yn eich ystafell ddosbarth i ddod â'r sgiliau cyfannol hyn yn fyw.
3.Y cyfle i ymuno â phrosiect addysgeg a ariennir, sef 'I Mewn i'r Ystafell Ddosbarth', i ddatblygu Creadigrwydd ac Arloesedd fel sgiliau cyfannol , ac i rannu eich dysgu proffesiynol wrth i chi ddatblygu'r dulliau hyn yn eich ystafell ddosbarth a chydag ysgolion ar draws y rhanbarth.
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion, ymarferwyr (Cynradd ac Uwchradd)
Dyddiad(au)
1 x diwrnod – dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2022
Amser
Diwrnod llawn: 09:30-16:00
Dull darparu
Wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
Gwesty'r Village, Abertawe
Hwylusydd
Jenna Gravelle – Ymgynghorydd Arweiniol
E-bost cyswllt
Jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
Cofrestrwch Isod!