Lleihau Effaith Anfantais ar Gyrhaeddiad
Wrth galon Cwricwlwm i Gymru mae'r ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr i fod yn iach, yn hyderus, yn foesegol, yn wybodus, yn fentrus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog. Dim ond os oes dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, tegwch mewn addysg a phwysigrwydd lles dysgwyr y gellir cyflawni hyn.
Datblygwyd Cynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Tegwch a Lles er mwyn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall sut i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella cynhwysiant i bawb.
Rhwydwaith Effaith Tlodi
Rhwydwaith rhanbarthol tymhorol i ysgolion drafod a datblygu dulliau gorau o liniaru tlodi.
- Deall pam y mae 'effaith tlodi' yn flaenoriaeth genedlaethol a rôl y rhwydweithiau tymhorol
- Wedi ystyried manteision posibl cydweithio i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol
- Wedi cael cyfle i wrando ar arbenigwyr ym maes tlodi, ymgysylltu â nhw, ystyried eu hymarfer ac archwilio'r hyn sy'n gweithio o ran cefnogi a gwella deilliannau.
Cynulleidfa Darged
Uwch-arweinwyr / Aelodau Staff Arweiniol Awdurdodau Lleol sydd am wella cyrhaeddiad
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
Amseroedd
Cyfarfod Rhwydwaith - Hanner Diwrnod (Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Rhwydwaith a arweinir gan y Rhanbarth gyda Chyflwyniadau Arbenigol
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
Arweinwyr Partneriaeth a Hyfforddwyr Arbenigol
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Defnyddio Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu r EEF a Datblygu Pedagogeg ar gyfer Dysgwyr Difreintiedig
Sesiynau dysgu cryno i archwilio'r EEF ac addysgeg effeithiol ar gyfer dysgwyr difreintiedig
- Deall sut a pham y mae 'Pecyn Cymorth Addysg a Dysgu y Sefydliad Gwaddol Addysgol' yn adnodd gwych a digymar i ysgolion o ran gwella cyrhaeddiad addysgol dysgwyr dan anfantais.
- Deall sut y mae'r pecyn cymorth a lywir gan ymchwil, a'r adnoddau dilynol, yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhoi arweiniad fesul cam i ysgolion ynghylch ymyriadau a rhaglenni newid strategol ar lefel ysgol gyfan
- Wedi cael cyfle i archwilio gwahanol rannau o'r pecyn cymorth a'r dogfennau arweiniad a chlywed yn uniongyrchol gan staff y Sefydliad Gwaddol Addysgol.
Cynulleidfa Darged
Uwch-arweinwyr / Aelodau Staff Arweiniol / Awdurdodau Lleol sydd am wella cyrhaeddiad
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
Amseroedd
Sesiynau Un Awr (Bob Mis)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
Hyfforddwyr Arbenigol EEF Arweinwyr Partneriaeth
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Cefnogi Rhaglenni Pontio Llwyddiannus
Rhaglen i ddatblygu dealltwriaeth o'r cyfnod pontio a sut i roi strategaethau llwyddiannus ar waith
- Wedi cael cyfle i fynd i bedair sesiwn hyfforddi fer ac archwilio beth yw pontio llwyddiannus, ystyried strategaethau effeithiol a sut i gefnogi'r dysgwyr trwy'r gwahanol gyfnodau pontio.
- Deall sut a phryd i sgaffaldio'r pontio ar gyfer dysgwyr dan anfantais ac agored i niwed
- Wedi cael cyfle i archwilio eu hymarfer eu hunain a chlywed am yr hyn sy'n gweithio mewn lleoliadau eraill (Mae pedair sesiwn hyfforddi i'r rhaglen hon ac awgrymir bod y cynrychiolwyr yn dod i'r pedair ohonynt.
Cynulleidfa Darged
Uwch-arweinwyr / Aelodau o staff sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb ym maes cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
Amseroedd
4 Sesiwn 1.5 awr (Ailadrodd Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
I'w Gadarnhau
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Datblygu Ymgysylltiad Teuluol a Chymunedol a Defnyddio Pecyn Cymorth FaCE
Rhaglen i ddatblygu dealltwriaeth o Ymgysylltu Teuluol a Chymunedol
- Wedi cael cyfle i ddilyn y rhaglen bedair rhan hon a chael cyfle i ddeall yn iawn ac archwilio sut y gall datblygu ymgysylltiad â'r gymuned a theuluoedd wella ymgysylltiad a chyflawniad y dysgwr.
- Deall beth yw ystyr ymgysylltiad da â'r gymuned a theuluoedd a beth yw rôl tegwch yn y maes hwn.
- Wedi cael eu cyflwyno i Becyn Cymorth Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd (YGaTh) Llywodraeth Cymru a gallu defnyddio'r strategaethau a'r ymyriadau sy'n rhan ohono
Cynulleidfa Darged
Uwch-arweinwyr / Aelodau o staff sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb ym maes cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
Amseroedd
4 Sesiwn 1.5 awr (Ailadrodd Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
I'w Gadarnhau
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Rhywdwaith RADY
Rhwydwaith tymhorol ar gyfer ysgolion sy'n rhan o Raglen RADY
- Cael cyfle, fel ysgol sy'n ymwneud â RADY, i ystyried sut y gallant ddefnyddio'r adnoddau a'r cymorth arbenigol a gynigir gan RADY i wella cyrhaeddiad addysgol a gwella tegwch yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol gyfan.
- Cael cyfle i fynd i gyfarfodydd rhwydwaith bob tymor a chael cyfle i ymgysylltu ag arbenigwyr RADY, gwrando ar arbenigwyr allanol ac ystyried eu hymarfer, ac archwilio'r hyn sy'n gweithio o ran cefnogi a gwella deilliannau.
Cynulleidfa Darged
Ysgolion sy'n cymryd rhan yn Rhaglen RADY
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
Amseroedd
Sesiwn ddwyawr (Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Rhwydwaith a arweinir gan y Rhanbarth gyda Chyflwyniadau Arbenigol
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
Arweinwyr Partneriaeth a Hyfforddwyr Arbenigol
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru