Darperir y rhaglen gan gonsortia rhanbarthol, ac mae’n cynnwys pum modiwl sy’n galluogi’r cyfranogwr i fyfyrio ar ei effeithiolrwydd unigol yn rôl arweinydd.
Bydd y cyfranogwr yn gweithio ar ei ben ei hun ac ar y cyd ag eraill yn rolau arweinwyr sefydliadau sy'n dysgu. Mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol, mae hon yn rhaglen genedlaethol a gydgysylltir gan gonsortia rhanbarthol ac sy'n defnyddio amrywiaeth o bartneriaid cyflawni.
Modiwlau Craidd y Rhaglen
Mae modiwlau craidd y rhaglen yn cefnogi’r cyfranogwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth i ddysgu sut i fod yn uwch-arweinwyr effeithiol.
Modiwl 1 – Gwerthoedd ac Ymagweddau, Hunanfyfyrio
Cyflwyniad i'r rhaglen
Y darlun cenedlaethol; Hunanfyfyrio (Hunanasesiad Arweinyddiaeth); Yr hyn yw uwch-arweinyddiaeth; Rȏl yr uwch-arweinydd; Arweinyddiaeth v Rheoli; Dulliau arwain; Llesiant a deallusrwydd emosiynol
Modiwl 2 – Gweithio gydag Eraill
Adborth o'r dasg ryngsesiynol, a rhannu'r weledigaeth â'r grŵp Ymddiriedaeth; Arwain staff; Datblygu timau effeithiol; Dysgu proffesiynol; Arloesedd; Ymholi proffesiynol; Mapio i weledigaeth; Sut olwg sydd ar werthuso ledled yr ysgol?
Modiwl 3 – Hyfforddi a Mentora
Hanner diwrnod ar sgiliau hyfforddi a mentora; Adborth, gan gynnwys sgyrsiau heriol; Systemau rheoli personél effeithiol
Modiwl 4 – Addysgeg
Dysgu ac Addysgu; Beth yw rhagoriaeth?; Rôl yr uwch-arweinydd mewn addysgu a dysgu; Data mewnol; Sicrhau ansawdd, monitro a gwerthuso; Creu diwylliant addysgu a dysgu; Diwygiadau Uwch-arweinwyr Llywodraeth Cymru i'r cwricwlwm – rheoli newid
Modiwl 5 – Cydweithredu
Cydweithredu ag ysgolion a chlystyrau eraill, ac asiantaethau allanol; Defnydd effeithiol o adnoddau; Gwneud defnydd da o'r gyllideb; Astudiaeth achos (i’w chyflwyno yn sesiwn 1 – Tasg Profiad o Arweinyddiaeth)
Agweddau Allweddol ar ddarparu'r Rhaglen
Mae darparu'r rhaglen hon yn cynnwys hyfforddiant/mentora a rhwydweithiau cymorth cymheiriaid ar gyfer pob cyfranogwr, ynghyd â hunanadolygiad unigol o safonau arweinyddiaeth. Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Gwneud cais
Ceir mynediad at y rhaglen hon trwy broses ymgeisio genedlaethol.
Cydgysylltydd Partneriaeth
Jan Waldron
Hazel Faulkner