Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Thrawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
Wrth galon Cwricwlwm i Gymru mae'r ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr i fod yn iach, yn hyderus, yn foesegol, yn wybodus, yn fentrus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog. Dim ond os oes dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, tegwch mewn addysg a phwysigrwydd lles dysgwyr y gellir cyflawni hyn.
Datblygwyd Cynnig Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Tegwch a Lles er mwyn cefnogi arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall sut i leihau anghydraddoldebau addysgol a gwella cynhwysiant i bawb.
Deall Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod
Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a'u heffaith ar ddysgwyr
- Deall bod Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn brofiadau trawmatig yn ystod plentyndod sy'n achosi i blant ddioddef dro ar ôl tro.
- Deall bod y profiadau'n gallu achosi niwed uniongyrchol i blentyn (e.e. camdriniaeth) neu effeithio'n anuniongyrchol ar blentyn trwy'r amgylchedd y mae'n byw ynddo (e.e. tyfu i fyny ar aelwyd lle mae trais domestig yn digwydd.)
- Deall y gall y trawma sy'n deillio o'r profiadau hyn barhau i effeithio ar bobl pan fyddant yn oedolion, ymhell wedi'r digwyddiad(au).
- Deall bod gwell dealltwriaeth o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u heffaith ar fywyd pob dydd plant yn allweddol o ran datblygu darpariaeth deg yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol gyfan.
- Wedi cael cyfle i ddatblygu dealltwriaeth dda o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'r camau y gallant eu rhoi ar waith yn eu lleoliadau eu hunain.
Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)
I'w Gadarnhau
Amseroedd
Sesiwn ddwyawr (Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
I'w Gadarnhau
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Datblygu Arferion Gwybodus o Drawma
Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o drawma, yr effaith ar ddysgwyr a strategaethau i ddatblygu dull ysgol gyfan o fod yn wybodus o drawma
- Deall pam a sut y mae nifer cynyddol o blant yn cael anawsterau ymlyniad yn dilyn dod i gysylltiad â thrawma.
- Wedi cael cyfle i ddeall beth y mae bod yn ystyriol o drawma yn ei olygu a sut y gall effeithio ar lesiant yr ysgol gyfan.
- Wedi cael cyfle i gael eu hyfforddi gan sefydliad Ysgolion sy'n Ystyriol o Drawma yn y Deyrnas Unedig ac elwa'n uniongyrchol o'u profiad helaeth a'u gwybodaeth arbenigol am gynorthwyo dysgwyr sydd â phrofiad o drawma.
Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)
I'w Gadarnhau
Amseroedd
Sesiwn tairawr (Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
Trauma Informed Schools
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Datblygu Rheoleiddio Synhwyraidd yn yr Ystafell Ddosbarth
Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o reoleiddio synhwyraidd a'r cysylltiad ag ymddygiad a chyfathrebu
- Deall sut y bydd plant â thrawma datblygiadol yn aml yn ei chael yn anodd iawn rheoleiddio eu hunain – o ran eu hemosiynau a'u hymddygiad – ac yn creu heriau enfawr i ysgolion o ran eu cynorthwyo mewn modd effeithiol.
- Wedi ymgymryd â rhaglen hyfforddi a fydd yn datblygu gwybodaeth am reoleiddio synhwyraidd a dealltwriaeth ohono a chael syniadau ar gyfer gweithgareddau ymarferol ac adnoddau.
- Wedi cael cyfle i gwblhau 2 sesiwn deirawr a gyflwynir gan Adenydd a fydd yn defnyddio eu profiad helaeth a'u gwybodaeth arbenigol am gynorthwyo dysgwyr sydd ag anawsterau rheoleiddio synhwyraidd
Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)
I'w Gadarnhau
Amseroedd
2 Sesiwn deirawr (Bydd angen cwblhau'r ddwy sesiwn) (Bob tymor)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
Adenydd
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Defnyddio Chwarae Sy'n Seiliedig ar Berthnasoedd
Cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o RBP a dysgu strategaethau a gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
- Deall sut a pham y mae Chwarae sy'n Seiliedig ar Berthnasoedd yn darparu dull clir i ymarferwyr ar gyfer chwarae strwythuredig.
- Deall sut y gellir ei ymgorffori yn yr ymarfer beunyddiol er mwyn cefnogi dysgwyr ar yr adeg hon i feithrin cysylltiadau, datblygu ymdeimlad o hunaneffeithlonrwydd, a choleddu teimladau o ddiogelwch, tawelwch a gobaith
- Wedi ymgymryd â sesiwn a gyflwynir gan Helen Worrall sy'n defnyddio'i phrofiad helaeth a'i gwybodaeth arbenigol am gynorthwyo dysgwyr sy'n agored i niwed a dan anfantais.
Cynulleidfa DargedArweinwyr ac ymarferwyr ysgolDyddiad(au)
I'w Gadarnhau
Amseroedd
Sesiwn ddwyawr (Bob Tymor)
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
Helen Worrall
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Cyflwyniad i Hyfforddiant ar Emosiynau
Cyfle i ddysgu am Hyfforddiant ar Emosiynau, sut y gall gefnogi dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a'r llwybr i achredu.
- Cael cyfle i ddysgu am Hyfforddiant ar Emosiynau a'r effaith y gall ei chael yn yr ystafell ddosbarth
- Cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Dr Janet Rose a chael gwybodaeth lawn am y Cwrs Hyfforddiant ar Emosiynau achrededig a'r disgwyliadau ac ati
Cynulleidfa Darged
Llywodraethwyr, rhieni, staff awdurdodau lleol, staff ysgol
Dyddiad(au)30 Tachwedd
Amseroedd
17:30-19:00
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
Zoom
Hwylusydd
Dr Janet Rose
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Achrediad Hyfforddiant ar Emosiynau
Rhaglen Hyfforddiant ar Emosiynau sy'n arwain at achrediad
- Deall bod Hyfforddiant ar Emosiynau yn ddull ysgol gyfan sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n seiliedig ar yr egwyddor bod perthnasoedd gofalgar, sy'n gefnogol yn emosiynol, yn darparu'r cyd-destun gorau posibl ar gyfer hyrwyddo dysgu cymdeithasol, emosiynol ac academaidd.
- Deall bod Hyfforddiant ar Emosiynau yn defnyddio adegau o emosiwn dwysach, a'r ymddygiad sy'n deillio o hynny, i arwain ac addysgu'r plentyn a'r person ifanc am ymatebion mwy effeithiol. Drwy ymgysylltu empathetig, caiff cyflwr emosiynol y plentyn ei gydnabod ar lafar a'i gadarnhau, gan beri i'r plentyn deimlo'n ddiogel ac wedi'i ddeall. Mae hyn yn ysgogi newidiadau yn system niwrolegol y plentyn ac yn caniatáu iddo ymdawelu yn ffisiolegol ac yn seicolegol.
- Deall bod Hyfforddiant ar Emosiynau yn seiliedig ar yr egwyddor bod perthnasoedd sy'n meithrin ac yn gefnogol yn emosiynol yn darparu'r cyd-destunau gorau posibl ar gyfer hyrwyddo deilliannau plant a'u gwytnwch.
- Ymuno â'r nifer cynyddol o ysgolion ac ymarferwyr ledled rhanbarth Partneriaeth lle darparwyd Hyfforddiant ar Emosiynau i arweinwyr ac ymarferwyr ers Ionawr 2020
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ac ymarferwyr ysgol
Dyddiad(au)2 ddiwrnod (21 a 29 Tachwedd) 2 weithdy 90 munud (11 Ionawr a 13 Chwefror)
Amseroedd
09:00 - 15:30 13:30-15:00
Dull Cyflwyno
Sesiynau Dysgu Proffesiynol a arweinir gan Hyfforddwr
Lleoliad(au)
Zoom
Hwylusydd
Dr Janet Rose
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Defnyddio Dulliau Adferol
Cyfle i ddysgu am ddulliau adferol yn yr ystafell ddosbarth a'r cysylltiad â pherthnasau ac ymddygiad cadarnhaol.
- Deall sut a pham y defnyddir dulliau adferol, a rôl sgyrsiau cynhwysol a sut y gellir eu defnyddio yn rhan o ddull ysgol gyfan er mwyn datblygu addysgu a dysgu, iechyd meddwl a llesiant.
Cynulleidfa Darged
Uwch-arweinwyr / Aelodau o staff sydd â chyfrifoldeb neu ddiddordeb ym maes cefnogi dysgwyr sy'n agored i niwed neu dan anfantais
Dyddiad(au)I'w Gadarnhau
Amseroedd
I'w Gadarnhau
Dull Cyflwyno
Sesiwn ddwyawr (Bob tymor)
Lleoliad(au)
I'w Gadarnhau - Cyfleoedd Wyneb yn Wyneb a Rhithwir
Hwylusydd
I'w Gadarnhau
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Datblygu Gwydnwch
I'w Gadarnhau
Cynulleidfa Darged
Amseroedd
Dull Cyflwyno
Lleoliad(au)
Hwylusydd
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
I'w Gadarnhau
Cynulleidfa Darged
Amseroedd
Dull Cyflwyno
Lleoliad(au)
Hwylusydd
Cyswllt eBost
Dylan.williams@partneriaeth.cymru