Cynllun Gweithredu 2030 Cymru Wrth-hiliol
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol:
yn meddu ar ddealltwriaeth o'r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yng nghyd-destun Cynllun Gweithredu 2030 Cymru Wrth-hiliol a Cwricwlwm i Gymru;
wedi cael cyfle i ystyried y modd y byddant yn ymgysylltu â dysgu proffesiynol cenedlaethol a rhanbarthol ar Wrth-hiliaeth a'r cwricwlwm yn ystod 2022-2023.
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr
Dyddiad(au)
11.10.22
Amser
15:30
Dull darparu
Ar-lein
Lleoliad(au)
Hwylusydd
Julian Nicholds a Sue Pellew-James
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Cyfoethogi eich cwricwlwm : cyflwyniad i ddadwladychu'r cwricwlwm RHAN 1
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol:
Wedi cael cyfle i ddiwygio eu syniadau am gynllun eu cwricwlwm yng nghyd-destun Gwrth-hiliaeth wrth iddynt ddechrau ar eu taith gwrth-hiliaeth;
Wedi cael diffiniad clir o ddadwladychu mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol, gan gynnwys arddangos nifer o enghreifftiau ar draws y pwnc;
Wedi archwilio'r effaith gadarnhaol y gallai cwricwlwm wedi'i ddadwladychu ei chael ar eu dysgwyr.
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr
Dyddiad(au)
18.10.22
Amser
9:30
Dull darparu
Ar-lein (MS Teams)
Lleoliad(au)
Amh.
Hwylusydd
Karen Brooke, Oshun Education
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Cyfoethogi eich cwricwlwm: cyflwyniad i ddadwladychu'r cwricwlwm RHAN 2
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu gwneud y canlynol:
Rhoi ar waith eu syniadau diwygiedig am gynllun eu cwricwlwm yng nghyd-destun Gwrth-hiliaeth wrth iddynt ddechrau ar eu taith gwrth-hiliaeth;
Ystyried dadwladychu mewn perthynas â chwricwlwm eu hysgol eu hunain
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr
Dyddiad(au)
20.10.22
Amser
3:30
Dull darparu
Ar-lein (MS Teams)
Lleoliad(au)
Amh.
Hwylusydd
Karen Brooke, Oshun Education
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Dadwladychu ein meddwl – dysgu proffesiynol ar gyfer arweinwyr ysgolion
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol wedi gwneud y canlynol:
Ystyried eu taith gwrth-hiliaeth yng nghyd-destun cwricwlwm eu hysgol;
Mynd i'r afael â chamdybiaethau hanesyddol i gynyddu cynrychiolaeth a hyrwyddo barn fwy cytbwys am bob diwylliant a'i hanes ar draws cwricwlwm yr ysgol;
Archwilio effaith ymarfer dysgu trwy alluogi plant o bob cefndir diwylliannol i deimlo cysylltiad â hanes byd-eang a lleol fel y gallant uniaethu yn rhan o gymdeithas/ddiwylliant Prydain;
Ystyried yr effaith ar hunanhyder a hunan-werth y dysgwyr, i'w grymuso i ryngweithio'n llawn â'u haddysg yn yr ysol a chyflawni hyd eithaf eu gallu;
Profi trafodaeth agored mewn amgylchedd diogel. Bydd y rhai sy'n bresennol wedi meithrin gwybodaeth ac agweddau mewn perthynas â hil ac yn gallu parhau â'r sgwrs yn yr ysgol
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion
Dyddiad(au)
24.11.22
Amser
09:30-13:00
Dull darparu
Sesiwn wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
I'w gadarnhau
Hwylusydd
Karen Brooke, Oshun Education
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Datblygu cwricwlwm gwrth-hiliol – gweithio gyda sefydliadau allanol ddod â'ch cwricwlwm yn fyw.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol wedi gwneud y canlynol:
Archwilio'r modd y gallwch weithio gyda sefydliadau arbenigol i ychwanegu cyd-destun i'ch cwricwlwm gwrth-hiliol;
Archwilio enghreifftiau o waith y gellir eu cyflawni trwy gydweithredu â phartneriaid;
Clywed gan sefydliadau arbenigol, prifysgolion, artistiaid ac ysgolion am eu taith tuag at gwricwlwm gwrth-hiliol a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.
Cynulleidfa Darged
Athrawon ac arweinwyr ysgolion
Dyddiad(au)
06/12/22
Dull darparu
Ar-lein
Lleoliad(au)
Amh.
Hwylusydd
Daniel Trivedy – Cyngor Celfyddydau Cymru
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Arwain newid mewn cyd-destun â gwrth-hiliaeth
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol:
Yn gwybod sut y gallant ddatblygu dull strategol o ymdrin â gwrth-hiliaeth yn eu hysgolion;
Yn deall yr ystyriaethau wrth uno tîm yn achos gwrth-hiliaeth;
Yn gallu myfyrio ar eu dadansoddiad SWOT ac wedi ystyried sut i fanteisio ar gryfderau i gipio cyfleoedd, ac ystyried y modd y mae cyfleoedd yn cyd-fynd â chryfderau neu'n osgoi gwendidau.
Cynulleidfa Darged
Athrawon ac arweinwyr ysgolion
Dyddiad(au)
19/01/2023
Amser
9:30-12.30
Dull darparu
Gweithdy wyneb yn wyneb
Lleoliad(au)
I'w gadarnhau
Hwylusydd
Lilian Martin – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Taith ysgol tuag at sefydliad sy'n dysgu gwrth-hiliol
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol wedi gwneud y canlynol:
· Datblygu syniad clir o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn sefydliad sy'n dysgu gwrth-hiliol;
· Datblygu gwybodaeth am fannau cychwyn o ran ymgysylltu â staff ar eich taith gwrth-hiliaeth;
· Archwilio adnoddau i'ch rhoi ar ben ffordd o ran ymgysylltu â'ch tîm i ddod yn sefydliad sy'n dysgu gwrth-hiliol.
Cynulleidfa Darged
Arweinwyr ysgolion
Dyddiad(au)
10/02/2023
Amser
9:30-11am
Dull darparu
Gweithdy ar-lein
Lleoliad(au)
Ar-lein – MS Teams
Hwylusydd
Cat Place – Pennaeth, Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî, Casnewydd
E-bost cyswllt
Julian.nicholds@partneriaeth.cymru
Y Fasnach Gaethweision Drawsiwerydd – Naratif cytbwys
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd y rhai sy'n bresennol:
Wedi'u galluogi i addysgu hanes ffeithiol y fasnach gaethweision drawsiwerydd gyda gofal a sensitifrwydd tuag at bob dysgwr yn yr ystafell ddosbarth;
Yn deall y modd y bu i'r Portiwgeaid a'r Sbaenwyr ddechrau caethiwo Affricanwyr, hyd at yr adeg pan oedd yr Ewropeaid yn rhan o'r arfer yn ystod yr 17eg ganrif pan oedd y fasnach gaethweision yn ei hanterth;
Wedi archwilio naratif amgen sy'n canolbwyntio ar y gwrthryfeloedd niferus a'r gweithredoedd gwrthwynebus gan yr Affricanwyr caeth ledled planhigfeydd y caethweision, gan gynnwys: hanesion diddymwyr Affricanaidd, Affricanaidd-Americanaidd a benywaidd yn y DU; Gwrthryfel Haiti; William Wiberforce a'i rôl yn y gronfa perchnogion caethweision gwerth £20 miliwn; y ‘Rhaglen Brentisiaeth’ a'r rhan a chwaraeodd ym mharhad caethiwed yn Sierra Leone; a gwaddol y fasnach gaethweision, gan gynnwys colli poblogaethau.
Cynulleidfa Darged
Athrawon ac arweinwyr ysgolion
Dyddiad(au)
22/03/2023
Amser
15:30
Dull darparu
Ar-lein
Hwylusydd
Karen Brooke, Oshun Education
E-bost cyswllt Julian.nicholds@partneriaeth.cymru