Twristiaeth

Twristiaeth Cymraeg.mp4
Twristiaeth Saesneg.mp4

Pam astudio Twristiaeth?

Mae'r Dyfarniad Lefel 1/2 mewn Twristiaeth yn cynnig cyflwyniad i un o'r sectorau cyflogaeth pwysicaf a mwyaf deinamig y Deyrnas Unedig; Twristiaeth yw'r 5ed diwydiant mwyaf y D.U, mae'n cefnogi 3miliwn o swyddi, 200,00 o fentrau maint bach i ganolig ac yn cyfrannu £127 biliwn i CMC y wlad bob blwyddyn. Mae gweithgareddau'r diwydiant twristiaeth wedi'u lleoli'n bendant o fewn ein hardal ni, y rhanbarth a'r wlad. Cymerwch Fwrdeistref Caerffili fel enghraifft: Mae digon o gyfleoedd ar gyfer profiadau twristiaeth, yn amrywio o Gastell Caerffili, Parc Gwledig Cwmcarn i Faenordy Llancaiach Fawr. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i archwilio gwahanol agweddau o'r diwydiant Twristiaeth mewn nifer o wahanol gyd-destunau.

Mae strwythur y cwrs wedi ei seilio ar sefydliadau twristiaeth go iawn. Bydd ymweliadau i'r sefydliadau gwahanol yn rhan hanfodol o'r cwrs. Bydd dysgwyr yn datblygu ystod o sgiliau ymarferol ac academaidd a fydd yn helpu i symud ymlaen i astudio pellach neu fynd i mewn i'r gweithle.

Why study Tourism?

The Tourism Level 1/2 Award course offers an introduction to one of the most important and dynamic employment sectors in the UK. th Tourism is the 5 largest industry in the UK; it supports 3 million jobs, 200, 000 small and medium sized enterprises and contributes £127 billion to the county's GDP each year. The tourism industry is firmly based within our locality, region and country. If we take the Borough of Caerphilly as an example, there are ample opportunities for tourism experiences, ranging from Caerphilly Castle, Cwmcarn Fforest drive to Llancaiach Fawr. Learners will have the opportunity to explore various aspects of tourism in many different contexts.

The structure of the course will be based on real life tourism organisations. School visits to different organisations will be an essential part of learners study. You will develop a range of skills both practical and academic that will help progress to further study or enter the workplace.

Meysydd Astudio / Areas of Study

  • Nodweddion Cyrchfannau - Apêl cyrchfannau

  • Safonau gwasanaeth cwsmeriaid mewn sefydliadau twristiaeth

  • Cwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid

  • Hawliau a chyfrifoldebau cwsmeriaid yn y diwydiant

  • Yr amgylchedd busnes ac ymateb i newid

  • Datblygu technolegau yn y diwydiant


  • Destination features.

  • Appeal of destinations.

  • Customer service standards in tourism organisations.

  • Meeting customers’ expectations.

  • Customers' rights and responsibilities.

  • The business environment and responding to change.

  • Development of technologies in the industry.

Asesu / Assessment

Uned 1:

Profiad y Cwsmer (Gwaith Cwrs)

Uned 2:

Y Busnes Twristiaeth (Arholiad - 25%)

Uned 3:

Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU (Gwaith Cwrs)

Unit 1:

Customer Experience (Coursework)

Unit 2:

The Business of Tourism (Examination - 25%)

Unit 3:

Developing UK Tourist Destinations (Coursework)