Gwyddoniaeth

Mae'r syniadau, egwyddorion a sgiliau a ddatblygir wrth astudio Gwyddoniaeth o fudd i bawb. Cawn wybodaeth wyddonol yn ein papurau ac ar y teledu bob dydd ac y mae datblygiadau gwyddonol yn newid ein bywydau.

Cyrsiau ydynt sydd yn pwysleisio datblygiad y sgiliau a gyflwynwyd yn ystod cyfnod allweddol tri.

Mae dwy haen gofrestru ar gyfer y cymhwysterau isod:

Haen Uwch – Graddau A* - D

Haen Sylfaenol – Graddau C – G

Gwyddorau ar wahân

Os dilynir y cwrs yma ceir tair gradd T.G.A.U. yn adlewyrchu cyrhaeddiad y disgyblion ym mhob pwnc. Mae hwn yn ddewis academaidd heriol.

Mae astudio’r fanyleb yma yn addysgu pob dysgwr felly yn yr agweddau hanfodol ar y wybodaeth, dulliau, prosesau a defnyddiau o wyddoniaeth. Dylid helpu'r dysgwyr i werthfawrogi sut y gellir disgrifio ffenomenau cymhleth ac amrywiol y byd naturiol yn nhermau nifer bach o syniadau allweddol yn ymwneud â'r gwyddorau sy'n rhyng-gysylltiol ac i'w cymhwyso'n gyffredinol.

Gwyddoniaeth Gymhwysol Dwyradd

Os dilynir y cwrs yma ceir dwy gradd T.G.A.U. yn adlewyrchu cyrhaeddiad ar draws y gwyddorau.

​Mae astudio'r fanyleb yma yn rhoi mewnwelediad i'r dysgwyr o sut mae gwyddoniaeth yn gweithio ac yn rhoi profiad ohono. Ar yr un pryd mae'n symbylu eu chwilfrydedd ac yn eu hannog i ddatblygu dealltwriaeth o wyddoniaeth, sut i'w chymhwyso a'i pherthynas â'r unigolyn ac â'r gymdeithas.

Mae BIOLEG yn ymwneud â phethau byw. Mae biolegwyr yn darganfod sut y mae pethau byw yn gweithio, ymddwyn a byw gyda'i gilydd.

Astudiaeth o sylweddau a sut y gellir eu newid yw CEMEG. Mae rhai cemegwyr yn darganfod pa gemegion sydd i'w cael mewn pethau byw. Mae cemegwyr eraill yn darganfod sut i wneud cemegion newydd.

Yr enw ar berson sy'n astudio FFISEG yw ffisegydd. Mae ffisegwyr yn astudio atomau a molecylau a sut mae'r rhain yn cyfuno i wneud nwyon, hylifau a solidau. Maent hefyd yn astudio sut y mae'r egni sydd gan wahanol wrthrychau yn cael ei newid, er enghraifft gan ddisgyrchiant, trydan a magnetedd. Mae'n bwysig i fiolegwyr a chemegwyr astudio rhywfaint o ffiseg hefyd oherwydd bod angen iddynt hwythau wybod am rymoedd, egni ac ati.

Mae llawer o wyddonwyr yn astudio pynciau sy'n cynnwys mwy nag un rhan o blith Bioleg, Ffiseg a Chemeg e.e. bioffisegwyr sy'n astudio pethau fel y llygad a sut y gallwn ni weld lliwiau, seryddwyr sy'n astudio'r sêr, y planedau a'r bydysawd, daearegwyr sy'n astudio creigiau a sut y cawsant eu ffurfio a gwyddonwyr meddygol.

The ideas, principles and skills learnt while studying science prepare one for life. Much scientific information comes our way everyday and new scientific developments change our lives.

These courses follow the National Curriculum and emphasise the development of the skills introduced at Key Stage Three.

There are two tiers of entry for the following qualifications:

  • Higher Tier – Grades A* - D

  • Foundation Tier – Grades C - G

GCSE Separate Sciences

Pupils following the separate sciences will receive three GCSE awards reflecting their attainment in each subject. This is an academically demanding choice.

Studying this specification provides the foundations for understanding the material world. Scientific understanding is changing our lives and is vital to the world’s future prosperity, and all learners should be taught essential aspects of the knowledge, methods, processes and uses of science.

GCSE Applied Science (Double Award)

Pupils study all 3 sciences and will receive 2 GSCE awards, reflecting their attainment across all 3 subjects.

​The Award in Applied Science enables scientific learning in an applied and engaging context. The qualification has a strong emphasis on practical work, making it ideal for learners who prefer to learn by doing. It stimulates their curiosity and encourages them to develop an understanding of science.

BIOLOGY can be used to understand and help solve many contemporary problems e.g. food production, control of pollution, health, plant and animal behaviour.

CHEMISTRY is a passport to many jobs such as Forensic Science, developing new drugs, archeology and is essential if considering a career in Medicine.

A qualification in PHYSICS can offer the possibility of exciting career prospects in aerospace, engineering, telecommunications and electronics to name but a few fields.

Many careers in science necessitate a combination of subjects.

Biophysicists for example study the eye and its ability to perceive colours; Astronomers study the stars, planets and outer space; Geologists study rocks, how they were formed and their Chemistry, whilst many branches of medicine are studied by medical scientists specialising in many different fields.