Mae cymhwyster TGAU CBAC mewn Technoleg Ddigidol yn gymhwyster eang sy'n galluogi dysgwyr i adeiladu ar y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddigidol a ddefnyddir yn eu bywydau yn yr ysgol a'u bywydau bob dydd. Mae'r cymhwyster wedi'i lunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dechrau ar eu taith tuag at yrfa sy'n defnyddio technolegau digidol neu symud ymlaen at raglenni dysgu lefel uwch sy'n cynnwys technolegau digidol.
Bydd y cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin eu dealltwriaeth o'r amrywiaeth o systemau technoleg ddigidol a ddefnyddir yn ein cymdeithas gysylltiedig a byd-eang. Bydd hefyd yn galluogi dysgwyr i archwilio natur ddatblygol systemau technoleg ddigidol a sut y gellir defnyddio'r systemau hyn mewn ffordd gynhyrchiol, greadigol a diogel.
Bydd manyleb TGAU CBAC mewn Technoleg Ddigidol yn galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:
dod yn annibynnol, yn hyderus ac yn wybodus wrth ddefnyddio technolegau digidol newydd, technolegau sy'n bodoli eisoes a thechnolegau datblygol
meithrin gwybodaeth am wahanol systemau technoleg ddigidol a ddefnyddir mewn amrywiaeth o sectorau galwedigaethol
deall effaith bosibl technolegau digidol ar unigolion a chymdeithas ehangach a'r ffyrdd y gallant arwain at newid • meithrin sgiliau wrth drefnu a dadansoddi data er mwyn adnabod tueddiadau a chynulleidfaoedd
dod yn wneuthurwyr cynhyrchion digidol, mewn amrywiaeth o fformatau ac at amrywiaeth o bwrpasau, sy'n bodloni anghenion penodol a dilys
meithrin sgiliau trosglwyddadwy wrth ddefnyddio amrywiaeth o galedwedd a meddalwedd
meithrin eu dealltwriaeth o gylchred oes datblygu systemau a'r ffordd y gall syniadau ddod yn gynhyrchion.
The WJEC GCSE qualification in Digital Technology is a broad-based qualification that allows learners to build on the digital skills, knowledge and understanding that is used both in their school and everyday lives. The qualification is designed for learners who wish to begin their journey towards a career that utilises digital technologies or to progress onto advanced level programmes of learning involving digital technologies.
The qualification will allow learners to develop their understanding of the range of digital technology systems at use in our connected and globalised society. It will also allow learners to explore the ever-evolving nature of digital technology systems and how these systems can be used productively, creatively and safely.
This WJEC GCSE specification in Digital Technology will enable learners to:
become independent, confident and knowledgeable users of existing, new and emerging digital technologies
develop knowledge of different digital technology systems used across a range of occupational sectors
understand the impact digital technologies can have on individuals and wider society and the ways in which they can bring about change • develop skills in organising and analysing data to identify trends and audiences
become creators of digital products, in a variety of formats and for a variety of purposes, that meet specified, authentic needs
develop transferable skills in using a range of hardware and software
develop their understanding of the systems development life cycle and of how ideas can become products.
Asesu / Assessment
Uned 1:
Y byd digidol
Arholiad ar-sgrin:
1 awr 30 munud
40% o'r cymhwyster
Asesiad (a wneir ar sgrin) sy'n cynnwys amrywiol fathau o gwestiynau er mwyn asesu cynnwys y fanyleb sy'n ymwneud â systemau technoleg ddigidol, gwerth technoleg ddigidol a safbwyntiau ar dechnoleg ddigidol.
Uned 2:
Arferion digidol
Asesiad di-arholiad:
45 awr
40% o'r cymhwyster
Asesiad di-arholiad yn cynnwys dwy adran. Yn Adran A, bydd ymgeiswyr yn holi set ddata a fydd wedi'i darparu ac wedi'i mewnforio i daenlen er mwyn gallu cwblhau Adran B, lle y byddant yn creu gwefan sy'n ymgorffori naill ai animeiddiad neu gêm sy'n gysylltiedig â chyd-destun penodol.
Uned 3:
Cyfathrebu yn y byd digidol
Asesiad di-arholiad:
15 awr
20% o'r cymhwyster
Asesiad di-arholiad yn canolbwyntio ar farchnata asedau digidol gan ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Bydd ymgeiswyr yn creu asedau digidol sy'n gysylltiedig â chyd-destun penodol ac yna'n llunio ymgyrch cyfathrebu digidol ar-lein mewn perthynas â nhw.
Unit 1:
The digital world
On-screen examination:
1 hour 30 minutes
40% of qualification
An assessment (taken on-screen), comprising of a range of question types to assess specification content related to digital technology systems, the value of digital technology and perspectives on digital technology.
Unit 2:
Digital practices
Non-exam assessment:
45 hours
40% of qualification
A non-examined assessment comprising of two sections. In Section A candidates will interrogate a supplied data set imported into a spreadsheet in order to inform Section B, where they will create a website incorporating either an animation or a game related to a set context.
Unit 3:
Communicating in the digital world
Non-exam assessment:
15 hours
20% of qualification
A non-examined assessment focusing on marketing digital assets using social media. Candidates will create digital assets related to a set context and then formulate an online digital communications campaign around them.