Ni fu erioed amser gwell neu bwysicach i astudio daearyddiaeth.
Mae daearyddiaeth yn eich helpu i wneud synnwyr o'r byd o'ch cwmpas.
Mae'n canolbwyntio ar astudio nodweddion ffisegol y ddaear a'i hawyrgylch, yn ogystal ag effeithiau gweithgaredd dynol. Mae hyn yn cynnwys yr effaith ddynol ar yr amgylchedd, dosbarthiad poblogaethau ac adnoddau, a gweithgareddau gwleidyddol ac economaidd.
Gan bod daearyddwyr yn delio â’r byd naturiol a sut rydym yn ymddwyn ynddo, gall eu swyddi fynd â nhw i bobman, o gymryd samplau pridd ar ymyl llosgfynydd i fapio tref newydd, olrhain y newidiadau i rewlif yn yr Arctig, neu hyd yn oed ymarfer gyfraith amgylcheddol mewn ystafell llys. Mae daearyddiaeth hefyd yn ddefnyddiol mewn seryddiaeth, cadwraeth natur, cynaliadwyedd a phensaernïaeth.
Yn ôl y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, mae gan raddedigion Daearyddiaeth rai o'r cyfraddau uchaf o gyflogaeth i raddedigion. Mae cyflogwyr wrth eu bodd â'r cymysgedd o sgiliau technegol a chymdeithasol a gaiff pobl o astudio daearyddiaeth, y maent yn eu hystyried yn drosglwyddadwy iawn.
Mae daearyddiaeth yn cyfuno'r byd dynol a'r byd ffisegol, gan ganiatáu i chi ehangu i'r celfyddydau neu'r gwyddorau yn nes ymlaen.
There has never been a better or more important time to study geography.
Geography helps you to make sense of the world around you.
It focuses on the study of the physical features of the earth and its atmosphere, as well as the effects of human activity. This includes the human impact on the environment, distribution of populations and resources, and political and economic activities.
Because geographers deal with the natural world and how we behave in it, their jobs can take them everywhere, from taking soil samples on the edge of a volcano to mapping a new town, charting the changes to a glacier in the Arctic, or even practising environmental law in a courtroom. Geography is also useful in astronomy, nature conservation, sustainability, and architecture.
According to the Royal Geographical Society, Geography graduates have some of the highest rates of graduate employment. Employers love the mix of technical and social skills people get from studying geography, which they see as very transferable.
Geography combines the human and the physical worlds, allowing you to branch out to the arts or the sciences later on.
Former Director of the Royal Geographical Society.
“Geography prepares young people with the knowledge, skills and understanding to make sense of their world and to face the challenges that will shape our societies and environments at the local, national and global scales.”
Broadcaster, natural historian and of course, the adopted Godfather of geography!!
“The truth is: the natural world is changing. And we are totally dependent on that world. It provides our food, water and air. It is the most precious thing we have, and we need to defend it.”
Asesu / Assessment
Uned 1 - Ein Byd Ffisegol a Dynol
Arholiad ysgrifenedig: 30% o'r cymhwyster - 1 awr 30 munud
Dalgylch afon ac afonydd
Morluniau sy'n newid
Mudo
Newid aneddiadau
Uned 2 - Datblygu Sgiliau Gwaith Maes
Ymholiad Gwaith Maes - 25%
Disgwylir i’r dysgwyr ymgymryd â dau ymholiad gwaith maes, gyda’r ddau mewn amgylchedd cyferbyniol. Bydd eich plentyn yn cwblhau asesiad di-arholiad yn ystod Tymor y Nadolig ym mlwyddyn 11.
Uned 3 - Ein byd dynamig ac amrywiol
Arholiad ysgrifenedig: 30% o'r cymhwyster - 1 awr 30 munud
Daearyddiaeth anghydraddoldeb
Uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ein tywydd
Tywydd garw
Newid hinsawdd parhaus
Rheoli heriau byd-eang
Uned 4 - Datrysiadau Cynaliadwy
Asesiad di-arholiad – 15% o'r cymhwyster
Ar gyfer yr asesiad hwn, mae'n ofynnol i ddysgwyr gynnal ymarfer gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar Becyn Adnoddau sy'n cynnwys materion cynaliadwy â nifer o opsiynau posibl.
Unit 1 - Our Physical and Human World
Written examination: 30% of qualification - 1 hour 30 minutes
Drainage basin and rivers
Changing coastlines
Migration
Settlement change
Unit 2 - Developing Fieldwork Skills
Non-examination assessment – 25% of qualification
Learners are expected to undertake two fieldwork enquiries, each in a contrasting environment. This will be completed as a Non-Examination Assessment during the Christmas Term of year 11.
Unit 3 - Our dynamic and diverse world
Written examination: 30% of qualification - 1 hour 30 minutes
The geography of inequality
The highs and lows of our weather
Wild weather
Continual climate change
Managing global challenges
Unit 4 - Sustainable Solutions
Non-examination assessment: 15% of qualification
For this assessment learners are required to undertake a decision making exercise based on a Resource Pack that contains sustainable issues with a number of possible options.