Mae'r astudiaeth o fathemateg a rhifedd yn orfodol ym mlynyddoedd 10 ac 11 ac mae medrusrwydd a llwyddiant yn y pwnc yn fanteisiol iawn ar gyfer unrhyw yrfa a ddewisir. Mae pob cwrs a gynigir yn cynnwys testunau rhif, algebra, siâp a gofod, trafod data a deall a chymhwyso Mathemateg.
Prif nod y cwrs yw meithrin a datblygu dealltwriaeth o fathemateg drwy broses o arbrofi ac ymchwilio, trwy waith ymarferol a thrwy drafodaeth a chydweithio ag eraill. Anelir at ddatblygu gwybodaeth a gallu mathemategol y disgyblion er mwyn iddynt allu cymhwyso mathemateg at sefyllfaoedd bob dydd.
Mae dwy haen gofrestru ar gyfer y cymhwyster hwn:
Haen Uwch: A* – D
Haen Sylfaenol: C – G
Gellir cofrestru dysgwyr ar haenau gwahanol ar draws unedau.
The study of Mathematics is compulsory in Years 10 and 11. Competence within the subject is greatly valued and will be of vital importance to many careers. Each course offered will include number, algebra, shape and space, data handling and the use and application of Mathematics.
The main aim of the course is to develop an understanding of the subject through a process of enquiry and experiment, through practical work and through discussion and working with others. The pupil's mathematical ability and knowledge will be developed so that he / she can apply Mathematics in everyday situations.
There are two tiers of entry for this qualification:
Higher Tier: A* – D
Foundation Tier: C – G
Learners may be entered at different tiers across units.
Asesu / Assessment
Uned 1 - Mathemateg Ariannol a Chymwysiadau Eraill o Rifedd
Arholiad ysgrifenedig
Haen Uwch: 1 awr 45 munud (80 marc)
Haen Sylfaenol: 1 awr 30 munud (65 marc)
30% o'r cymhwyster
Unit 1: Financial Mathematics and Other Applications of Numeracy
Written examination
Higher Tier: 1 hour 45 minutes (80 marks)
Foundation Tier: 1 hour 30 minutes (65 marks)
30% of qualification
Uned 2: Digyfrifiannell
Arholiad ysgrifenedig
Haen Uwch: 1 awr 45 munud (80 marc)
Haen Sylfaenol: 1 awr 30 munud (65 marc)
30% o'r cymhwyster
Unit 2: Non-calculator
Written examination
Higher Tier: 1 hour 45 minutes (80 marks)
Foundation Tier: 1 hour 30 minutes (65 marks)
30% of qualification
Uned 3: Caniateir cyfrifiannell
Arholiad ysgrifenedig
Haen Uwch: 2 awr (90 marc)
Haen Sylfaenol: 1 awr 45 munud (75 marc)
40% o'r cymhwyster
Unit 3: Calculator-allowed
Written examination
Higher Tier: 2 hours (90 marks)
Foundation Tier: 1 hour 45 minutes (75 marks)
40% of qualification
Llwybrau Mynediad mewn Mathemateg / Entry Pathways in Mathematics
Llwybrau Mynediad mewn Mathemateg
Bwriedir y cwrs yma ar gyfer disgyblion a fyddai'n cael anhawster i gyrraedd lefel TGAU. Rhoddir pwyslais ar waith llafar ac ymarferol ac ar osod Mathemateg mewn cyd-destun naturiol. Asesir y disgyblion yn gyson drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau e.e. tasgau strwythurol, elfennau ymarferol, gwaith llafar a gwaith ysgrifenedig. Anogir y disgyblion i ddefnyddio cyfrifanellau ac elfennau eraill o dechnoleg gwybodaeth yn ystod gwersi Mathemateg.
Entry Pathways in Mathematics
This course is intended for pupils who would find the GCSE course too difficult. Emphasis is placed on oral and practical work and the placing of Mathematics in a realistic context. The pupils are assessed continuously in a variety of ways e.g. structured tasks, practical elements and evidence of class work, homework and written tests. The pupils are encouraged to use calculators and other elements of information technology during Mathematics lessons.