Pam Astudio Addysg Bersonol a Chymdeithasol?
Mae'r cymhwyster Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn cefnogi dysgwyr i gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth i wella eu datblygiad personol a chymdeithasol a’u hiechyd a’u lles emosiynol. Mae hyn yn galluogi pobl ifanc i fod yn unigolion hyderus sydd wedi’u harfogi fel y gallant fyw’n effeithiol ac yn llwyddiannus mewn cymdeithas sy’n newid yn gyflym a chyflawni eu huchelgeisiau.
Mae’r cymhwyster yn bodloni anghenion Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac yn ymateb i’r datganiadau canlynol o’r hyn sy’n bwysig:
Mae datblygu iechyd a lles y corff yn arwain at fuddiannau gydol oes
Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol
Mae’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau eraill
Mae’r ffordd rydym yn ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio pwy ydyn ni, ac yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles
Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles
Gall y cymhwyster gefnogi’r “meysydd” ychwanegol a sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau annatod gan gynnwys Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith; Hawliau Dynol ac Amrywiaeth; ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Why Study Personal and Social Education?
The Personal and Social education (PSE) qualification supports learners to increase their skills and knowledge to improve their personal and social development and emotional health and wellbeing. This enables young people to become equipped and confident individuals so that they can effectively and successfully live in a fast-changing society and fulfil their ambitions.
The qualification meets the needs of the Health and Wellbeing Area of Learning and Experience and responds to the following statements of what matters:
Developing physical health and well-being has lifelong benefits
How we process and respond to our experiences affects our mental health and emotional well-being
Our decision-making impacts on the quality of our lives and the lives of others
How we engage with social influences shapes who we are and affects our health and well-being
Healthy relationships are fundamental to our well-being
The qualification can support the additional “areas” and cross-curricular skills and integral skills including Careers and Work-Related Experiences (CWRE), Human Rights and Diversity, and Relationships and Sexuality Education (RSE).
Beth yw pynciau’r cymhwyster? / What are the qualification subjects?
Bydd pob disgybl yn astudio unedau craidd fel rhan o'n darpariaeth lles statudol. Mae'r rhain yn cynnwys y pynciau canlynol:
Iechyd Meddwl a Lles
Ymwybyddiaeth o Wrth-fwlio
Deall Effeithiau Alcohol
Eleni, o ganlyniad i addasiadau Cwricwlwm i Gymru, ni fydd pob disgybl Blwyddyn 10 ac 11 yn astudio'r Dystysgrif Her Sgiliau. Yn lle, bydd rhai dosbarthiadau yn cwbhlau Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Byddwn yn sicrhau ein bod yn dewis y cymhwyster mwyaf addas ar gyfer eich plentyn fel ei bod yn datblygu’r sgiliau mwyaf addas iddyn nhw ac yn derbyn y gradd uchaf posib.
Bydd y cwrs llawn yn adlewyrchu cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau ac yn cynnwys y pynciau canlynol:
Project Dinasyddiaeth - Llythrennedd Gwybodaeth, Ymwybyddiaeth Amgylcheddol a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
Project Menter - Archwilio Entrepreneuriaeth, Cymryd rhan mewn Gweithgaredd Menter a Chyfathrebu effeithiol yn y Gweithle.
All pupils will study core units as part of our statutory wellbeing provision. These include the following subjects:
Mental Health and Wellbeing
Anti-Bullying Awareness
Understanding the Effects of Alcohol
This year, as a result of changes made due to the Curriculum for Wales, not all Year 10 and 11 pupils will study the Welsh Baccalaureate's Skills Challenge Certificate. Instead, some classes will complete a Level 2 Extended Certificate in Personal and Social Education. We will ensure that we choose the most suitable qualification for your child so that they develop their skills effectively and receive the highest possible grade.
The full course will mirror the content of the Skills Challenge Certificate and includes the following subjects:
Citizenship Project - Information Literacy, Environmental Awareness and Equality and Diversity
Enterprise Project - Exploring Entrepreneurship, Participating in an Enterprise Activity and Effective Communication in the Workplace.
Gwerth y Cymhwyster / What is the qualification worth?
Mae’r cymhwyster yma yn cael ei dyfarnu yn seiliedig ar gredydau a wobrwyir am bob uned a gyflawnwyd.
Bydd pob disgybl Ysgol Cwm Rhymni yn cwblhau unedau craidd sy'n eu galluogi i ennill Dyfarniad Estynedig mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae'r Dyfarniad Estynedig yn cyfateb i hanner TGAU.
Bydd disgyblion nad sy'n dilyn y Dystysgrif Her Sgiliau yn cwblhau unedau a chredydau bellach er mwyn ennill Tystysgrif Estynedig sy'n cyfateb i 2 TGAU.
This qualification is awarded based on credits awarded for each completed unit.
All Cwm Rhymni pupils will complete core units which enable them to gain an Extended Award in Personal and Social Education. The Extended Award is equivalent to half a GCSE.
Pupils who do not follow the Skills Challenge Certificate will now complete additional units and credits in order to gain an Extended Certificate, which is equivalent to 2 GCSEs.