Lletygarwch ac Arlwyo

Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality and Catering

Pam astudio Lletygarwch ac Arlwyo?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth ac estyn eu sgiliau lletygarwchac arlwyo mewn cyd-destun galwedigaethol. Mae'n gymhwyster addas i'r rheiny sydd am gael cefndir eang yn y maes hwn ac i'r rhai sydd am symud ymlaen i addysg bellach. Bydd yn baratoad gwerthfawr i'r rhai sy'n cychwyn ym myd gwaith.

Mae'r cwrs yn annog ymchwiliad ac astudiaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau mewn lletygarwch ac arlwyo gan ddefnyddio amrywiol dechnegau asesu i alluogi dysgwyr i ymateb trwy waith ymarferol ac ymchwiliol.

Why study Hospitality and Catering?

The hospitality and catering course offers a unique opportunity for learners to develop their knowledge and extend their skills within hospitality and catering in a vocational context. It is a suitable qualification for those who want a broad background in this area and for those who wish to progress to further education.

It will offer valuable preparation for those entering the world of work. This course encourages the investigation and study of hospitality and catering in a variety of contexts and uses a range of assessment techniques to enable learners to respond through practical and investigative work.

Meysydd Astudio / Areas of Study

  • Y diwydiant - bwyd a diod.

  • Rolau swydd, cyfleoedd gwaith.

  • Iechyd, hylendid a diogelwch.

  • Paratoi, coginio a chyflwyno bwyd.

  • Maeth a chynllunio bwydlenni.

  • Costio a rheoli cyfrannau.

  • Offer cegin arbenigol.

  • Cyfathrebu a chadw cofnodion.

  • The industry - food and drink.

  • Job roles, employment opportunities.

  • Health, safety and hygiene.

  • Food preparation, cooking and presentation.

  • Nutrition and menu planning.

  • Costing and portion control.

  • Specialist kitchen equipment.

  • Communication and record keeping.

Asesu / Assessment

Uned 1:

Y diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo (Arholiad - 40%)

Uned 2:

Paratoi, coginio a gweini bwyd Enghraifft o friff:

Mae'r gwesty lleol yn eich ardal yn cynnal wythnos ryngwladol. Fel cogydd dan hyfforddiant cawsoch eich gwahodd i gymryd rhan a gofynnwyd i chi baratoi pryd tri chwrs o wlad o'ch dewis chi. (Gwaith Cwrs - 60% )

Unit 1:

The Hospitality and Catering Industry (Examination - 40%)

Unit 2:

Hospitality and Catering in Action:

Example brief - The local hotel in your area is holding an international week. As the trainee chef you have been invited to take part and have been asked to prepare a three-course meal from a country of your choice. (Course Work - 60% )