ffrangeg

Ffrangeg Cymraeg.webm
Ffrangeg Saesneg.webm
D_Ffrangeg.3gp

Pam astudio Ieithoedd Tramor Modern?

Ydych chi’n sylweddoli dim ond 25% o boblogaeth y byd sy’n siarad Saesneg? Felly,mae astudio iaith dramor fodern yn ehangu eich gorwelion a chryfhau eich sgiliau cyfathrebu. Mae nifer mawr o Brydeinwyr yn mynd i Ffrainc neu Sbaen ar eu gwyliau ac mae astudio TGAU yn eich helpu i ddeall traddodiadau a diwylliant y wlad ac yn eich paratoi i ddelio gyda sefyllfaoedd gwahanol yn yr iaith dramor. Mae astudio iaith yn gallu atgyfnerthu gwybodaeth o reolau gramadegol iaith eich hun ac o ganlyniad gwella’r safon. Mae Prifysgolion “Russell Group” yn blaenoriaethu myfyrwyr sydd â TGAU ieithoedd am amrywiaeth o gyrsiau megis meddygaeth. Mae’n bosib hefyd i astudio iaith gyda gwyddoniaeth yn y brifysgol.Yn ôl nifer o holiaduron mae astudio iaith yn cynyddu eich cyflog potensial o rhwng 8% ac 20% ac mae astudiaethau hefyd yn dangos bydd pwysigrwydd ieithoedd yn y gweithle yn cynyddu yn sgîl Brexit.

Why study French?

Are you aware that only 25% of the world’s population speak English? Therefore, studying a Modern Foreign Language will broaden your horizons and improve your communication skills. Many British people go on holiday to France or Spain and studying a GCSE will help you understand the traditions and culture of the country and will prepare you to deal with a variety of situations in the foreign language. Studying a language can reinforce your own language’s grammatical structures and as a result improve your understanding of your mother tongue.

Russell Group universities give priority to students who have a GCSE in a language for a variety of courses such as medicine. It is also possible to study a language alongside a scientific subject. According to many studies, knowledge of a foreign language increases earning potential between 8% and 20% and research shows that the importance of languages in the work place will increase following Brexit.

Beth fydda i’n astudio? / What will I study?

  • Hunaniaeth a Diwylliant

  • Cymru a’r Byd

  • Cyflogaeth ac astudiaethau cyfredol ac yn y dyfodol


  • Identity and Culture

  • Wales and the World

  • Current Study and Future Employment

Asesu / Assessment

Asesir y pedwar sgil ieithyddol yn gyfartal:-

  • Darllen: 25%

  • Siarad: 25%

  • Gwrando: 25%

  • Ysgrifennu: 25%

The four language skills are assessed equally:

  • Reading: 25%

  • Speaking: 25%

  • Listening: 25%

  • Writing: 25%

Gyrfaoedd Posib / Possible careers

Mae astudio iaith dramor fodern yn gallu arwain at amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys newydduriaeth,y gyfraith ac addysg. Mae cyflogwyr yn awyddus i gael gweithwyr amlieithog ac mae iaith dramor hefyd yn fuddiol yn y maes gwyddonol, fel peirianneg a thechnoleg gan fod posibiliadau o weithio tramor.

Studying a modern foreign language can lead to a variety of careers including journalism, law and education. Employers are eager to find multilingual workers and a foreign language is also beneficial in scientific fields, such as engineering and technology as there are many opportunities to work abroad.