Pam dewis Astudiaethau Crefyddol?
Mae TGAU Astudiaethau Crefyddol yn cefnogi dysgwyr i:
datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gredoau, gwerthoedd, dysgeidiaethau, arferion ac argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol
ymgysylltu â phrofiadau byw cyferbyniol crefyddol ac anghrefyddol • datblygu chwilfrydedd am bwrpas bywyd
archwilio ffyrdd y mae argyhoeddiadau moesegol ac athronyddol crefyddol ac anghrefyddol wedi dylanwadu ar brofiad a chymdeithas ddynol
archwilio tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol sy’n ymwneud â materion athronyddol, moesegol a moesol
gwerthfawrogi natur gymhleth, blwralaidd ac amrywiol cymdeithas drwy ddeall yr angen am oddefgarwch, gwydnwch, ac empathi
adfyfyrio ar eu gwerthoedd, eu credoau a'u safbwyntiau eu hunain a rhai pobl eraill • cyd-fynd ag agweddau ar ganllawiau statudol Crefydd, gwerthoedd a moeseg er mwyn galluogi dysgwyr i:
datblygu hunanymwybyddiaeth mewn perthynas â phobl eraill • creu cysylltiadau â'r byd ehangach a’r byd naturiol
datblygu creadigrwydd a chwilfrydedd
archwilio'r cwestiynau eithaf ac ystyried ystyr a phwrpas o safbwynt plwralaidd, dehongli a gwneud synnwyr o brofiadau dynol, y byd naturiol, a’u lle eu hunain ynddo, gan ddeall gwahanol grefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn eu hardal eu hunain ac yng Nghymru, gan ddatblygu eu hymdeimlad o gynefin, yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Why study Religious Studies?
GCSE Religious Studies supports learners to:
develop knowledge and understanding of religious and non-religious beliefs, values, teachings, practices, and philosophical convictions
engage with contrasting lived religious and non-religious experiences
develop curiosity about the purpose of life
explore ways in which religious and non-religious ethical and philosophical convictions have influenced human experience and society
explore evidence from a range of religious and non-religious sources that engage with philosophical, ethical, and moral issues
appreciate the complex, pluralistic and diverse nature of society by understanding the need for tolerance, resilience, and empathy
reflect on their own values, beliefs, and perspectives and those of others
align with aspects of the Religion, values and ethics statutory guidance to enable learners to: • develop an awareness of self in relation to others
make connections to the wider and natural world
develop creativity and curiosity • explore ultimate questions and contemplate meaning and purpose
make sense of and interpret human experience, the natural world, and their own place within it, from a pluralistic perspective, understanding different religions and non-religious philosophical convictions in their own locality and in Wales, developing their sense of cynefin, as well as in the wider world.
Asesu / Assessment
Uned 1: Credoau, dysgeidiaethau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud - 30% o'r cymhwyster
Cwestiynau sy'n gofyn am ymatebion gwrthrychol, cwestiynau sy'n gofyn am atebion byr ac estynedig.
Uned 2: Crefydd a pherthnasoedd
Asesiad di-arholiad: 6 awr - 20% o'r cymhwyster
Bydd yr asesiad yn seiliedig ar un o ddwy thema osod a gosodiad y bydd CBAC yn eu gosod bob blwyddyn. Mae’r themau yma yn cynnwys -
Priodas, godineb, ysgariad ac ailbriodi
Dulliau artiffisial o atal cenhedlu a chynllunio teulu'n naturiol
Cyd-fyw a rhyw cyn priodi a thu allan i briodas
Perthnasoedd un rhyw, partneriaethau sifil a phriodas un rhyw
Perthnasoedd rhyng-ffydd a phriodas y tu allan i'r traddodiad crefyddol
Rolau o fewn y teulu, gan gynnwys rolau rhywedd o fewn perthnasoedd
Magwraeth grefyddol, seremonïau plentyndod ac ysgolion ar sail ffydd.
Uned 3: Rolau, hawliau a chyfrifoldebau
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 15 munud - 30% o'r cymhwyster
Cwestiynau sy'n gofyn am ymatebion gwrthrychol, cwestiynau sy'n gofyn am atebion byr ac estynedig.
Uned 4: Crefydd a hawliau dynol
Asesiad di-arholiad: 6 awr - 20% o'r cymhwyster
Bydd yr asesiad yn seiliedig ar ddau o dri mater hawliau dynol gosod y bydd CBAC yn eu gosod bob blwyddyn. Mae’r themau yn cynnwys -
rhyddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
cydraddoldeb rhywedd
hawliau LHDTC+
cydraddoldeb hil pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
hawl i addysg
hawl i ryddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
hawl i fywyd a rhyddid rhag y gosb eithaf
hawl i geisio cyfiawnder am dorri ar hawliau dynol
hawliau pobl ag anableddau
hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Unit 1: Religious and non-religious beliefs, teachings and practices
Written examination: 1 hour 15 minutes - 30% of qualification
Questions requiring objective responses, questions that require short and extended answers.
Unit 2: Religion and relationships
Non-examination assessment: 6 hours - 20% of qualification
The assessment will be based on one of two set themes and a statement which will be set by WJEC annually. These themes are -
Marriage, adultery, divorce and remarriage
Artificial contraception and natural family planning
Cohabitation and sex before and outside marriage
Same-sex relationships, civil partnerships and same-sex marriage
Interfaith relationships and marriage outside the religious tradition
Roles within family, including gender roles within relationships
Religious upbringing, childhood ceremonies and faithbased schooling.
Unit 3: Roles, rights and responsibilities
Written examination: 1 hour 15 minutes - 30% of qualification
Questions requiring objective responses, questions that require short and extended answers.
Unit 4: Religion and human rights
Non-examination assessment: 6 hours - 20% of qualification
The assessment will be based on two of three set human rights issues which will be set by WJEC annually. These themes are -
freedom from slavery and forced labour
gender equality
LGBTQ+ rights
racial equality of Black, Asian and minority ethnic people and communities
the right to education
the right to freedom from slavery and forced labour
the right to life and freedom from capital punishment
the right to seek justice for human rights violations
the rights of people with disabilities • the rights of refugee and asylum seekers.
Mae’n bwnc diddorol a chyfoes!
It’s an interesting and contemporary subject!