Bydd TGAU Cyfrifiadureg yn eich helpu i:
Ddeall a chymhwyso egwyddorion a chysyniadau cyfrifiadureg
Datblygu eich sgiliau rhaglennu ymarferol
Datblygu eich sgiliau ym maes meddwl cyfrifiannol
Dadansoddi problemau er mwyn datblygu a gweithredu strategaethau i'w datrys
Datblygu eich sgiliau rheoli projectau
Gwella eich sgiliau meddwl rhesymegol a mathemategol
Gwella eich sgiliau cydweithio a gweithio mewn tim
Deall elfennau cymdeithasol, proffesiynol, moesegol, amgylcheddol a chyfreithiol systemau cyfrifiadurol
Defnyddir cyfrifiaduron yn eang ym mhob agwedd ar fusnes, diwydiant, llywodraeth, addysg, hamdden a'r cartref. Yn yr oes dechnolegol hon, mae astudio cyfrifiadureg, ac yn enwedig y modd y defnyddir cyfrifiaduron wrth ddatrys amrywiaeth o broblemau, yn hanfodol i ddysgwyr.
Mae cyfrifiadureg yn integreiddio'n dda â phynciau ar draws y cwricwlwm. Mae'n galw am ddisgyblaeth resymegol a chreadigedd llawn dychymyg wrth ddethol a dylunio algorithmau ac wrth ysgrifennu, profi a dadfygio rhaglenni; mae'n dibynnu ar ddeall rheolau iaith ar lefel sylfaenol; mae'n annog ymwybyddiaeth o'r modd y rheolir ac y trefnir systemau cyfrifiadurol; mae'n ymestyn gorwelion dysgwyr y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol neu'r coleg i werthfawrogi effeithiau cyfrifiadureg ar gymdeithas ac unigolion.
Lluniwyd TGAU Cyfrifiadureg CBAC i roi dealltwriaeth o gysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg a chwmpas eang o gyfleoedd astudio. Lluniwyd y fanyleb hon mewn ffordd sy'n galluogi canolfannau i ganolbwyntio ar ddarparu'r cwrs mewn ffordd arloesol, drwy gyfrwng strwythur syml, anghymhleth sydd wedi'i ddiogelu at y dyfodol, gyda gofynion technolegol realistig.
The WJEC GCSE in Computer Science will help you to:
Understand and apply principles and concepts of computer science
Develop your practical programming skills
Develop skills in computational thinking
Analyse problems in order to develop and implement strategies to solve them
Develop your project management skills
Improve your logical and mathematical thinking skills
Improve your collaboration and team-working skills
Understand the social, professional, ethical, environmental and legal dimensions of computer-based systems
Computers are widely used in all aspects of business, industry, government, education, leisure and the home. In this technological age, a study of computer science, and particularly how computers are used in the solution of a variety of problems, is essential to learners.
Computer science integrates well with subjects across the curriculum. It demands both logical discipline and imaginative creativity in the selection and design of algorithms and the writing, testing and debugging of programs; it relies on an understanding of the rules of language at a fundamental level; it encourages an awareness of the management and organisation of computer systems; it extends learners’ horizons beyond the school or college environment in the appreciation of the effects of computer science on society and individuals.
The WJEC GCSE in Computer Science has been designed to give an understanding of the fundamental concepts of computer science and a broad scope of study opportunities. This specification has been designed to free centres to concentrate on innovative delivery of the course by having a streamlined, uncomplicated, futureproof structure, with realistic technological requirements.
Asesu / Assessment
Uned 1:
Deall Cyfrifiadureg
Arholiad ar-sgrin:
1 awr 30 munud
50% o'r cymhwyster / 80 marc
Mae'r uned hon yn eich helpu i feithrin eich dealltwriaeth o agweddau ymarferol ar gyfrifiadura fel caledwedd, meddalwedd, systemau, rhwydweithiau a cyfathrebu, wrth ddatblygu eich gallu i gynllunio, rheoli a darparu datrysiadau cyfrifiadurol i anghenion a phroblemau pob dydd.
Uned 2:
Rhaglennu Cyfrifiadurol
Arholiad ar-sgrin sy'n seiliedig ar friff:
2 awr
50% o'r cymhwyster / 80 marc
Mae'r uned hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau rhaglennu, cyn eu defnyddio i greu datrysiad i broblem byd go iawn.
Unit 1:
Understanding Computer Science
Written examination:
1 hour 30 minutes
50% of the qualification / 80 marks
This unit helps you to build your understanding of practical aspects of computing such as hardware, software, systems, networks and communication, whilst developing your ability to plan, manage and deliver computer-based solutions for everyday needs and problems.
Unit 2:
Computer Programming
On-screen examination based on a brief:
2 hours
50% of the qualification / 80 marks
This unit gives you the opportunity to develop your programming skills, before using them to create solutions to a real-world problem.
Mae'r cwrs yma yn heriol tu hwnt, os oes angen mwy o wybodaeth am y pwnc yma, siaradwch i'r Adran Cyfrifiadureg / Technoleg Ddigidol.
This is a very challenging course, if you would like more information about this subject then please talk to staff within the Computer Science or Digital Technology department.