Dros hyd y cwrs mi fyddwch yn datblygu eich sgiliau perfformio, cyfansoddi ac arfarnu yng nghyd-destun yr elfennau Cerddorol sef:
Deinameg
Ffurf ac adeiledd
Harmoni
Alaw a Thraw
Technegau Perfformio/Cynaniad
Soniaredd/Ansawdd
Tempo, Rhythm a Mesur
Gwead
Cyweiredd.
Mi fyddwch yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer asesiadau'r tair uned mewn dull ymarferol ar y cyfan. Bydd hyn yn cynnwys sawl cyfle i berfformio a chyfansoddi yn y dosbarth. Er hyn mi fydd disgwyl i chi ymarfer eich offeryn/llais arbenigol yn eich amser eich hun. Mae yn er mwyn paratoi ar gyfer yr arholiad perfformio yn ogystal â'ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau cerddorol.
Over the course you will develop your performing, composing and appraising skills in the context of Elements of Music:
Dynamics
Form and Structure
Harmony
Melody and Pitch
Performance Techniques/Articulation
Sonority/Timbre
Tempo, Rhythm and Metre
Texture
Tonality
You will develop the necessary skills for the three assessments in a mostly practical course. This will include several opportunities to perform and compose within the classroom. Even so it will be expected of you to practice your instrument/voice as an independent learner, so that you can prepare for the performance exam as well as develop your general musicianship.
Uned 1 (32.5% o'r cymhwyster) :
Perfformio:
Perfformiad rhwng 4-6 munud yn perfformio o leiaf dau ddarn.
Wrth ddatblygu eich sgiliau perfformio mi fydd disgwyl i chi baratoi rhaglen 4-6 munud o hyd. Gall hyn gael ei wneud gydag eich athro offerynnol/llais neu mewn cydweithrediad a'r Pennaeth Cerdd. Gallwch berfformio fel unawdydd, aelod o ensemble neu cyfuniad o'r ddau.
Uned 2 (32.5% o'r cymhwyster):
Cyfansoddi:
Dau gyfansoddiad cyferbyniol rhwng 3-6 munud
Log Adfyfyriol
Dau gyfansoddiad, ac mae'n rhaid i un fod yn ymateb i friff a osodwyd gan CBAC. Bydd dysgwyr yn dewis un briff o ddewis o bedwar. Bydd y briffiau'n cael eu rhyddhau yn ystod wythnos gyntaf Medi yn ystod y flwyddyn academaidd yr ymgymerir â'r asesiad. Mae'r ail gyfansoddiad yn gyfansoddiad rhydd y mae'r dysgwyr yn gosod eu briff eu hunain ar ei gyfer.
Uned 3 (35% o'r cymhwyster):
Arfarnu - Arholiad digidol 1 awr 30 munud o hyd:
Cwestiynau sy'n gofyn am ymatebion gwrthrychol, atebion byr ac estynedig, wrth ymateb i'r gweithiau gosod a ddewiswyd a'r darnau heb eu gweld ymlaen llaw.
Unit 1 (32.5% of the qualification) :
Performing:
A performance between 4-6 minutes in length performing at least two pieces.
Whilst developing your performing skills during the course you will be expected to prepare a programme 4-6 minutes in length. This can be done in cooperation with your instrument/vocal teacher or in conjunction with the Head of Music.
Unit 2 (32.5% of the qualification)
Composition:
Two contrasting compositions lasting between 3-6 minutes
Reflective Log
Learners will be expected to complete a portfolio including:
Two compositions, one of which must be in response to a brief set by WJEC. Learners will choose one brief from a choice of four. The briefs will be released during the first week of September in the academic year in which the assessment is to be taken. The second composition is a free composition for which learners set their own brief.
Unit 3 (35% of the qualification):
Appraising - Digital only examination: 1 hour 30 minutes in length:
Questions requiring objective responses, short and extended answers, in response to the chosen set works and unseen extracts.
Mae cwrs TGAU mewn Cerddoriaeth yn darparu sgiliau angenrheidiol ar gyfer llawer o swyddi. Mi fydd llawer o gyfleoedd i weithio mewn grŵp yn ogystal â datblygu eich gallu i weithio fel dysgwr annibynnol. Byddwch yn datblygu sgiliau creadigol gan lwyddo i ddysgu sut i fynegi eich hun drwy berfformio a trwy greu cyfansoddiadau. Gall y cymhwyster arwain at sawl gyrfa yn y byd cerddorol yn amrywio o berfformio i gynhyrchu yn ogystal â llwyddo i agor drysau i fynediad at ddyfodol mewn unrhyw un o'r celfyddydau creadigol neu fynegiannol.
Mae hefyd datblygiadau cyffroes iawn yn digwydd ym mlwyddyn 12 a 13 blwyddyn nesaf. Rydym yn cynnig cwrs diploma UAL sydd yn gyfwerth a 1.75 lefel A. Mae'n gwrs ardderchog sy'n galluogi i ddisgyblion i arbenigo ar ei diddordeb nhw o gerddoriaeth yn unig am ddwy flynedd. Perfformiwr ar y gitâr? Dyma gyfle i chi fireinio'ch sgiliau gan ddysgu i berfformio a recordio eich hunain a gwerthu eich hunain fel artist. Dyma'r cwrs mwyaf cyffroes rydym erioed wedi ei gynnig yma yng Nghwm Rhymni. Nid oes llawer o golegau nac ysgolion yn cynnig y cwrs yma ar hyn o bryd felly mae astudio Cerddoriaeth yn y dyfodol yng Nghwm Rhymni yn edrych fel ei fod yn mynd i fod yn brofiad cyffroes iawn.
The Music GCSE course provides you with skills that are necessary for several careers. You will have plenty of opportunities to work as a member of a team as well as developing your ability to grow as an independent learner. You will develop creative skills that will teach you how to express yourself through performance and/or compositions. The qualification can also lead to several careers in the music industry varying from performing to producing. It can also open doors to a future in the creative or expressive arts.
There are also very exciting developments taking place in year 12 and 13 next year. We are offering a UAL diploma course which is equivalent to 1.75 A levels. It is an excellent course which enables pupils to specialize in their interest in music only for two years. Are you a guitarist? This is an opportunity for you to refine your skills learning to perform and record yourself and sell yourself as an artist. This is the most exciting course we have ever offered here in Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. There aren't many colleges or schools offering this course at the moment so studying Music in the future at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni looks like it's going to be a very exciting experience.