Iechyd a Gofal a Gofal plant
Pam astudio Iechyd a Gofal a Gofal Plant?
Mae TGAU CBAC mewn Iechyd a Gofal a Gofal Plant yn rhoi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ddysgwyr am ddatblygiad unigolion, a sut i ofalu amdanynt, drwy gydol cylchred bywyd o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.
Mae dysgwyr yn cael y cyfle i feithrin eu dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf, datblygiad, ymddygiad a llesiant dynol. Byddant hefyd yn meithrin dealltwriaeth o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn cydnabod bod gan bawb eu galluoedd a'u hanghenion unigryw eu hunain. Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o sut mae darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus, nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Cynlluniwyd y fanyleb hon i gynnwys materion cyfoes mewn perthynas â darparu system iechyd a gofal a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru, a chreu dysgwyr annibynnol sy'n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chyfleoedd dysgu pellach neu wneud dewisiadau gyrfaol cysylltiedig. Mae rhannu'r cynnwys yn unedau yn hybu hyblygrwydd o ran darparu. Mae’n hybu dysgu gweithredol a phersonoli drwy roi cyfleoedd i'r dysgwyr ymchwilio i faterion gofal a phynciau o'u dewis nhw.
Why study Health and Care, and Childcare?
The WJEC GCSE in Health and Care, and Childcare equips learners with knowledge, understanding and skills related to the development and care of individuals throughout the life cycle from conception to later adulthood. Learners have the opportunity to develop their understanding of influences on human growth, development, behaviour and well-being. They will also gain an understanding of the social, physical, emotional, and cultural needs of people who use care and support services, and recognise that each individual has a unique blend of abilities and needs.
Learners will gain an understanding of how service provision in Wales supports the development and well-being of individuals, to be able to make informed decisions now and in later life.
This specification has been designed to include contemporary issues in relation to the provision of an ethical and sustainable health and social care, and childcare system in Wales, and to create independent learners that can make informed decisions about further learning opportunities or continuing into related career choices.
The layout of the content into units promotes flexibility of delivery. Active learning and personalisation is promoted by giving learners opportunities to investigate care issues and topics of their own choice.
Asesu / Assessment
Uned 1: Twf, datblygiad a llesiant dynol
Arholiad ysgrifenedig: 1 awr 30 munud
40% o gymhwyster gradd unigol
20% o gymhwyster dwyradd
Meysydd cynnwys:
2.1.1 Datblygiad dynol drwy gydol cylchred bywyd
2.1.2 Iechyd corfforol, cymdeithasol, emosiynol a deallusol
2.1.3 Pwysigrwydd cyfranogiad gweithredol i ddatblygiad a llesiant
2.1.4 Atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn hybu a chynnal twf, datblygiad a llesiant ar gyfer amrediad o amgylchiadau a chyflyrau
Trosolwg o'r uned
Yn yr uned hon bydd dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad
dynol ar draws cylchred bywyd a'r ffyrdd y mae’n gallu effeithio ar hyn; sut y gall
unigolion gymryd rheolaeth o'u gofal a'u hiechyd a'u llesiant; a sut y gall ymyrryd
Uned 2: Hybu a chynnal iechyd a llesiant
Asesiad di-arholiad: tua 25 awr
60% o gymhwyster gradd unigol
30% o gymhwyster dwyradd
Mae'r asesiad di-arholiad hwn yn cynnwys dwy dasg a osodir gan CBAC. Gall ymgeiswyr gyflawni eu hymchwil ar gyfer y ddwy dasg heb oruchwyliaeth uniongyrchol, cyn llunio eu hadroddiadau. Dylai ymgeiswyr dreulio tua 25 awr i gyd yn llunio eu hadroddiadau ar gyfer yr asesiad di-arholiad, gan gwblhau'r gwaith o dan oruchwyliaeth yn y ganolfan.
Meysydd cynnwys:
2.2.1 Iechyd a gofal cymdeithasol, a darpariaeth gofal plant yng Nghymru i hybu a chynnal iechyd a llesiant
2.2.2 Iechyd y cyhoedd a hybu iechyd drwy gydol cylchred bywyd
2.2.3 Ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a llesiant drwy gydol cylchred bywyd
Trosolwg o'r uned
Yn yr uned hon bydd dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o'r amrediad o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant sy’n cael eu darparu yng Nghymru a sut y gall ymyrryd yn gynnar a chymryd camau ataliol gefnogi twf a datblygiad unigolion.
Unit 1: Human growth, development and well-being
Written examination: 1 hour 30 minutes
40% of single award qualification
20% of double award qualification
Areas of content:
2.1.1 Human development across the life cycle
2.1.2 Physical, social, emotional and intellectual health
2.1.3 The importance of active participation on development and well-being
2.1.4 Early intervention and prevention to promote and support growth, development and well-being for a range of conditions and circumstances
Overview of unit
In this unit learners will gain knowledge and understanding of human development across the life cycle and the ways in which this may be affected; how individuals can take control of their care and health and well-being; and how early intervention and prevention can support growth and development of individuals.
Unit 2: Promoting and maintaining health and well-being
Non-exam assessment: approximately 25 hours
60% of single award qualification
30% of double award qualification
This non-exam assessment (NEA) is composed of two tasks set by WJEC, shown in Appendix B. Candidates may carry out their research for both tasks without direct supervision, prior to writing up their reports. Candidates should spend approximately 25 hours in total writing up their NEA reports, completing the work under supervised conditions within the centre.
Areas of content:
2.2.1 Health and social care, and childcare provision in Wales to promote and support health and well-being
2.2.2 Public health and health promotion across the life cycle
2.2.3 Factors affecting health and well-being across the life cycle
Overview of unit
In this unit learners will gain knowledge and understanding of the range of health and social care, and childcare services provided in Wales and how these services promote and maintain the health and well-being of the nation.