EA7 - dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu.
Cyd-destun
Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.
DYFODOL LLWYDDIANNUS
Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015
Pennod 5: Addysgeg
DYFODOL LLWYDDIANNUS
Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015
Pennod 5: Addysgeg
7. Mae addysgu a dysgu da yn golygu dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu
Archwilir Asesu ar gyfer Dysgu yn fanylach ym Mhennod 6 ond mae'r un mor berthnasol i addysgu a dysgu da ag yw i asesu. Mae dull Asesu ar gyfer Dysgu yn galluogi ymarferwyr i ddeall effeithiolrwydd y dysgu, ac yn cynnwys rhoi adborth rheolaidd ac ystyrlon, ac addasu'r addysgu a deunyddiau i ddiwallu anghenion yr unigolion. Yn ogystal â hyn, mae’n helpu dysgwyr i godi safonau a meithrin uchelgais: gall dysgu fod yn arbennig o rymus pan fydd y dysgwyr yn cael adborth sy’n eu helpu i ystyried y materion ac sy'n rhoi arweiniad iddynt ar y camau nesaf. Yn yr un modd, gall cydweithio ac adborth ymhlith cymheiriaid ddarparu amgylchedd diogel i gyfleu syniadau a rhoi prawf arnynt.
Mae Dylan Wiliam wedi awgrymu bod asesu effeithiol gan athrawon yn gallu ‘dyblu’ cyfradd y dysgu – hynny yw, os caiff ei weithredu’n briodol, gall arwain at y dysgwyr yn gwneud yr hyn a arferai fod yn flwyddyn o gynnydd cyn pen chwe mis. Yn ôl Wiliam, mater cymharol syml yw gweithredu strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu; yr her yw newid ymddygiad yr ymarferwr fel ei fod yn ymgorffori arferion Asesu ar gyfer Dysgu yn gyson yn yr arferion ystafell ddosbarth.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf
Asesu ar Gyfer Dysgu: pam, beth a sut?*
Dylan Wiliam
Y Sefydliad Addysg, Prifysgol Llundain
Yr hyn yr wyf yn dymuno siarad â chi amdano yn ystod yr awr nesaf yw'r pam, y beth a'r sut o ran defnyddio asesu i wella dysgu. Pam y dylem fod yn gwneud hyn, beth y dylem fod yn ei wneud, a sut yr ydym yn mynd ati?
Dyma'r trosolwg o'r cyflwyniad:
• pam y mae codi cyflawniad yn bwysig?
• pam mai buddsoddi mewn athrawon yw'r ateb?
• pam y dylai asesu ar gyfer dysgu fod yn ffocws i'r buddsoddiad hwnnw?
• sut y gallwn roi hynny ar waith?
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Dylan Wiliam: Cyflwyniaid i assesu ffurfiannol
Yn y fideo hwn, rwy'n darparu sail resymegol reddfol ac empirig dros asesu ffurfiannol, yn trafod yr hyn ydyw, a'r hyn nad ydyw, ac yn amlinellu pum strategaeth allweddol asesu ffurfiannol: egluro, rhannu a deall bwriadau dysgu; ennyn tystiolaeth; rhoi adborth sy'n symud y dysgu yn ei flaen; ysgogi'r disgyblion i fod yn adnoddau dysgu i'w gilydd; ac ysgogi'r disgyblion i fod yn berchnogion eu dysgu eu hunain.
Dylan Wiliam: Defnyddio strategaethau asesu i gefnogi adborth
Yn y darn fideo hwn, mae Dylan yn trafod defnyddio strategaethau asesu i gefnogi adborth o ansawdd uchel ar ddysgu.
Dylan Wiliam: Asesu ffurfiannol
Gwyliwch wrth i Dylan Wiliam fwrw golwg dros natur asesu ffurfiannol a'r modd y gall athrawon ei ddefnyddio i gael gwell dirnadaeth o ddysgu a chyflawniad y disgyblion.
Bregus – Peidiwch â’i Ollwng – Asesu ar Gyfer Dysgu Tu Mewn
Gan John Dabell: 'Hyfforddais i fod yn athro ysgol gynradd 25 mlynedd yn ôl, gan ddechrau fy ngyrfa yn Llundain, ac yna addysgais mewn amrywiaeth o ysgolion yn Nghanolbarth Lloegr. Rhwng y swyddi dysgu, bûm yn arolygydd Ofsted (dim negeseuon casineb os gwelwch yn dda!), yn ddarparwr hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol, yn rheolwr prosiectau, yn awdur ac yn olygydd. Fi yw'r athro mud.'
Y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol: Addyssgeg, dysgu ac addysgu
Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Trosolwg o’r ymholiad: Sylwyd fod disgyblion blwyddyn 6 eleni yn orddibynnol ar arweiniad oedolion er mwyn symud eu dysgu yn ei flaen i’r cam nesaf. Mae yna ddisgwyliad bod ysgolion yn ystyried y 12 o egwyddorion addysgegol wrth fynd ati i gynllunio ar gyfer dyfodiad Cwricwlwm i Gymru 2022. Un o’r egwyddorion hynny yw ‘Annibyniaeth a dysgu sut i ddysgu’. Bwriad yr ysgol felly, yw datblygu strategaethau i feithrin yr egwyddor addysgegol hon, ac yn sgil hynny, datblygu'r egwyddor o ‘Asesu ar Gyfer Dysgu’.
Ailedrych ar Bum Strategaeth Asesu Ffurfiannol Campus Dylan Wiliam
GOSODWYD AR-LEIN GAN TOM SHERRINGTON ⋅ Ionawr 10, 2019