EA 4 - defnyddio cymysgedd o ddulliau gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol.
Arferion Creadigol y Meddwl
Cred Bill Lucas y gall meithrin y pum arfer meddwl yn yr Olwyn Arferion Creadigol y Meddwl gefnogi datblygiad y sgiliau creadigol sy'n annog creadigrwydd ac yn helpu i wneud myfyrwyr yn feddylwyr creadigol. Defnyddir model pum dimensiwn ar gyfer creadigrwydd mewn ysgolion, a ddatblygwyd gyda'r OECD, yn helaeth ledled y byd.Gan ddechrau gyda berfau dysgu allweddol, mae pob rhan o'r olwyn yn cymryd un o'r Arferion ac yn adeiladu ar archwilio sut y gall strategaethau penodol a ddefnyddir yn yr ystafell ddosbarth gefnogi datblygiad penodol arferion meddwl penodol. Sut allwch chi ddefnyddio’r Olwyn Arferion Creadigol y Meddwl i ddatblygu creadigrwydd eich dysgwyr?
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Hetiau De Bono
Sut i ddefnyddio Hetiau lliw De Bono i ddatrys problemau?
De Bono - Beth yw buddion defnyddio hetiau De Bono?
Bydd dysgwyr yn:
Datblygu fel meddylwyr annibynnol.
Arwain trafodaethau grŵp yn wrthrychol.
Gwerthuso newidiadau amgen yn adeiladol.
Gwella'u sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu.
Meddwl yn feddylgar cyn siarad.
Gwrando'n fwy astud ar farn eraill i gael dealltwriaeth ddyfnach o faterion.
Cyflwyno syniadau gyda mwy o hyder i athrawon, cyfoedion, rhieni a grwpiau cymunedol.
Datrys problemau.
Gwneud penderfyniadau doeth.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Defnyddio Hetiau De Bono wrth ymateb i lenyddiaeth
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Ystyr Hetiau De Bono
Defnyddio hetiau meddwl:Gan ddefnyddio'r Chwe Het Meddwl (Six Thinking Hats®) byddwch chi a'ch tîm yn dysgu sut y mae defnyddio proses ddisgybledig a fydd yn gwneud y canlynol ...
Cynyddu (glas) cydweithio cynhyrchiol hyd yr eithaf a lleihau rhyngweithio/ymddygiad gwrthgynhyrchiol hyd yr eithaf
Mynd ati'n drefnus i ystyried (coch) materion, problemau, penderfyniadau a chyfleoedd
Defnyddio (melyn) Meddwl Cyfochrog fel grŵp neu fel tîm i gynhyrchu mwy o syniadau a datrysiadau gwell
Gwneud (gwyrdd) cyfarfodydd yn llawer byrrach a mwy cynhyrchiol
Lleihau (du) gwrthdaro ymhlith aelodau'r tîm neu'r cyfranogwyr mewn cyfarfod
Ysgogi (glas) arloesedd trwy gynhyrchu mwy o syniadau a gwell syniadau a hynny'n gyflym
Creu (coch) cyfarfodydd deinamig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn codi awydd ar bobl i gyfrannu
Mynd (melyn) y tu hwnt i'r pethau amlwg i ddarganfod datrysiadau gwahanol ac effeithiol
Gweld (gwyrdd) cyfleoedd lle na fydd eraill ond yn gweld problemau
Meddwl (du) yn glir ac yn wrthrychol
Edrych (glas) ar broblemau o onglau newydd ac anarferol
Gwerthuso (coch) yn drwyadl
Gweld (melyn) pob ochr i’r sefyllfa
Ffrwyno'r ego a'r awydd i "amddiffyn eich maes"
Cyflawni (du) canlyniadau arwyddocaol ac ystyrlon mewn llai o amser