EA 12 - hybu cydweithio.
Cyd-destun
Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.
DYFODOL LLWYDDIANNUS
Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015
Pennod 5: Addysgeg
12. Mae addysgu a dysgu da yn hybu cydweithio
Y gallu i weithredu’n effeithiol fel aelod o dîm yw un o’r sgiliau allweddol y bydd cyflogwyr yn cyfeirio ato’n aml fel un sy’n hanfodol yn y gweithle modern ac mae’n agwedd bwysig ar gynigion yr Adolygiad. Mae dysgu cydweithredol hefyd yn bwysig ohono’i hun. Mae Hattie yn dod i gasgliad diamwys yn ei ymchwil drwy ddatgan, ‘…cooperative learning is effective’56. Mae’n cyfeirio at amrywiaeth o dystiolaeth o ymchwil sy’n dangos bod dysgu gyda chyfoedion yn cael effeithiau cadarnhaol ar gymhelliant, datrys problemau a chyflawniad. Yn y cyd-destun hwn, mae adborth gan gyfoedion yn neilltuol o effeithiol a bydd cynllunio ac addysgu da yn creu cyd-destunau strwythuredig ar gyfer cyflwyno adborth yn adeiladol.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf
3 Ffyrdd o Fodelu Cydweithrediad a Phartneriaeth mewn Ysgolion ac Ystafelloedd Dosbarth
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Erthygl sy'n trafod beth yw ystyr 'cydweithredu' neu bartneriaeth, ac sy'n darparu modelau o ran sut y gallai hyn ymddangos mewn lleoliadau addysgol.
Michael Niehoff, 2018
Schools: How to build a successful partnership?
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Mae John Hayes yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Gatholig St Bernard. Yn yr erthygl hon, mae'n rhoi trosolwg o'r hyn y mae ei ysgol wedi bod yn ei wneud i ddyfnhau a chryfhau profiadau dysgu trwy gydweithredu.
John Hayes, 2016
Collaborative professionalism
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Mae Charlain Simpson, sy'n uwch-ymgynghorydd addysg, yn trafod manteision cydweithredu ar gyfer y proffesiwn addysgu. Mae'n credu y gall proffesiynoldeb cydweithredol helpu athrawon i greu cyfleoedd dysgu rhagorol ar gyfer yr holl ddysgwyr yn eu cymuned ddysgu.
Charlaine Simpson 2018
https://www.gtcs.org.uk/News/Blog/collaborative-professionalism-blog.aspx
Teacher collaboration: How to approach it in 2020
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Mae Lauren Davies, golygydd EdTech, yn nodi yn yr erthygl hon fod pawb yn elwa pan fydd athrawon yn cydgynllunio ac yn cydaddysgu, a hynny'n seiliedig ar weledigaeth a rennir.
Lauren Davies, 2020
Andy Hargreaves on collaborative professionalism
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Andy Hargreaves yw'r Cadeirydd Brennan yn Ysgol Addysg Lynch yng Ngholeg Boston. Ef yw Llywydd y Gynghrair Genedlaethol ar gyfer Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion a Phrif Olygydd Sylfaenol y Journal of Professional Capital and Community, ac mae'n Ymgynghorydd Addysg i Bennaeth Ontario a Phrif Weinidog yr Alban.
Deunydd Darllen Pellach
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Mae'r llyfr hwn wedi'i drefnu'n glir i amlygu'r angen am Broffesiynoldeb Cydweithredol, ynghyd â chynllun ar gyfer hynny, gan ddefnyddio achosion o bum gwlad allweddol – Tsieina, Norwy, Colombia, Ontario, a'r Unol Daleithiau. Yn ail ran y llyfr, defnyddir yr achosion hyn i ddatgelu deg credo proffesiynoldeb cydweithredol, er enghraifft effeithiolrwydd ar y cyd, ymholiad cydweithredol, a chydweithredu â myfyrwyr, ac mae'n dangos sut y maent yn cydweithio i sicrhau llwyddiant. Mae'r rhan olaf yn amlinellu'n glir yr arferion y mae angen i ni roi terfyn arnynt (trosiant uchel o ran athrawon), yr hyn a ddylai barhau i ddigwydd (adborth da), a'r hyn a ddylai ddechrau digwydd (grymuso rhagor ar y myfyrwyr).
"Mae Hargreaves ac O’Connor wedi ysgrifennu llyfr eithriadol sy'n egluro, yn dyfnhau, ac yn ein haddysgu sut i drawsnewid addysgu a dysgu mewn ysgolion. Rydym yn dysgu sut y mae pobl yn cydweithredu mewn pum cyd-destun a diwylliant gwahanol ledled y byd. Ac rydym yn deall, o'r diwedd, y camau pwysig ar gyfer meithrin proffesiynoldeb cydweithredol cadarnhaol, ymddiriedus, meddylgar a pharhaus, ynghyd â'i holl fanylion arwyddocaol."
Ann Lieberman, Senior Scholar at Stanford University 2018-04-10