EA 1 - canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm



Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.

DYFODOL LLWYDDIANNUS

Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

1. Mae addysgu a dysgu da yn canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm

Un o themâu canolog yr Adolygiad yw’r angen i fod yn glir ynghylch dibenion cyffredinol y cwricwlwm. Dylai’r egwyddor honno fod yn gymwys i’r un graddau i’r dewis o ddulliau addysgu a dysgu. Er ei bod yn anodd canolbwyntio ar gyd-destun mor hirdymor o ddydd i ddydd, mae’n bwysig bod cydbwysedd y profiadau a gynigir i blant a phobl ifanc yn cael ei adolygu’n rheolaidd mewn perthynas â’r dibenion cwricwlwm. Mae’n anochel y bydd y pedwar diben cwricwlwm a gynigir gan yr Adolygiad yn galw am ddefnyddio repertoire eang o ddulliau addysgu a dysgu. Drwy gynnwys y Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad, mae’r strwythur newydd yn rhoi arwyddion clir ynghylch y dulliau addysgu cysylltiedig. Y bwriad yw rhyddhau creadigrwydd ac egni athrawon er mwyn darparu cyfleoedd dysgu cyfoethog i blant a phobl ifanc.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

"Mae’r dystiolaeth a ystyriwyd ar gyfer Dyfodol Llwyddiannus yn cadarnhau bod angen dibenion cyffredin sy’n gymwys i bob plentyn a pherson ifanc ac yn hyrwyddo dyheadau uchelgeisiol a phenderfyniad i lwyddo. Mae’n bwysig sicrhau y bydd pob person ifanc, wrth adael yr ysgol, wedi cael addysg eang sy’n ei baratoi i lwyddo mewn byd sy’n fwyfwy cymhleth a chyfnewidiol."

dyfodol-llwyddiannus.pdf

Adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (pennod 3)

Athro G. Donaldson 2015

Llywodraeth Cymru

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:

Mae'r bennod hon yn esbonio pam mae'r Adolygiad yn cynnig y dylid cael datganiad syml a pharhaus o ddibenion cwricwlwm ar gyfer Cymru. Mae'n dadansoddi ac yn trafod canfyddiadau, polisïau a blaenoriaethau perthnasol a ddylai lywio datblygiad y dibenion hynny ac yn olaf yn nodi pedwar pwrpas arfaethedig yr Adolygiad.


Chwalu'r Mythau Cwricwlwm i Gymru

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:

Cyn i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyhoeddi, ac yn fwyfwy ers hynny, mae nifer o fythau a chamddehongliadau wedi ymddangos sy'n groes i fwriad y rhai a oedd yn rhan o'r gwaith dylunio a datblygu. Yn y ddogfen hon, rydym yn ceisio chwalu rhai o'r mythau hyn a darparu ychydig o gydbwysedd lle mae deuoliaethau annefnyddiol wedi dechrau ymddangos.


Chwalu'r Mythau.docx

Adnoddau Cwricwlwm i Gymru

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:

Gyda thoreth o gyngor, adnoddau a gwybodaeth am ffurf y cwricwlwm , credwn fod yr adnoddau hyn yn hanfodol ar gyfer cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau. Cliciwch ar y delweddau isod i gael yr adnodd perthnasol.

Blog cwricwlwm I Gymru

Dysg Newsletter

Addysg Cymru Podcasts

canllawiau-cwricwlwm-i-gymru-070220.pdf

Canllawiau Cwricwlwm i Gymru