EA 10 - annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain.


Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.

DYFODOL LLWYDDIANNUS

Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

10. Mae addysgu a dysgu da yn cymell plant a phobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros eu dysgu eu hunain

Mae’r dibenion cwricwlwm yn rhoi pwyslais ar yr angen i feithrin hyder a chapasiti i ddysgu drwy gydol oes. Bydd y dull o addysgu’r plant a phobl ifanc yn ddylanwad cryf ar ddatblygiad capasiti o’r fath. Mae angen i ddysgwyr gyfrannu at gynllunio eu dysgu eu hunain drwy gymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch lle y maent wedi cyrraedd a beth yw’r ffordd orau o’u helpu i wireddu eu dyheadau yn y dyfodol. Mae metawybyddiaeth, neu ‘dysgu i ddysgu’, yn gallu helpu dysgwyr i gymryd mwy o reolaeth dros eu dysgu eu hunain. Mae metawybyddiaeth yn ymwneud â’r wybodaeth sydd gan yr unigolyn am y ffordd y mae ef a phobl eraill yn meddwl, a gwybod sut a pha bryd i ddefnyddio sgiliau/strategaethau ar gyfer dysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae hefyd yn cynnwys y gallu i feddwl yn strategol a defnyddio strwythurau (er enghraifft, cynllunio, monitro a gwerthuso) i gyrraedd nod neu ddatrys problem. Er mwyn dod yn ddysgwyr galluog, bydd angen i blant a phobl ifanc allu cymryd cam yn ôl ac arsylwi ar eu proses dysgu eu hunain, a gweld sut i’w gwella. Drwy gydweithio ag ymarferwyr a chyfoedion, gall dysgwyr fireinio eu sgiliau metawybyddol, gan fod cydweithio’n rhoi cyfle iddynt siarad am eu prosesau meddwl, eu cymharu ag eraill a mireinio eu sgiliau dysgu o ganlyniad. Drwy wneud hyn, bydd y plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses dysgu ac yn deall sut i ddysgu a sut i greu’r amodau gorau ar gyfer eu dysgu eu hunain. Bydd ar rai dysgwyr angen mwy o gymorth, mwy o enghreifftiau, mwy o ymarfer ac yn y blaen ond bydd yn bwysig o hyd eu bod, lle bynnag bo’n bosibl, yn cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain ac yn gosod targedau uchelgeisiol i’w hunain hefyd. Yr elfen hanfodol mewn dysgu wedi’i bersonoli yw’r rhyngweithio rhwng athrawon a phlant a phobl ifanc ac ymysg y plant a phobl ifanc eu hunain. Bydd yn bwysig bod rhyngweithio o’r fath yn hyblyg ac yn ymateb i anghenion sy’n codi.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

Taking responsibility for learning

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae Dr Alison Davis o Vision Education Seland Newydd yn sgwrsio gyda Dominique Russell o'r cylchgrawn Teacher, yn ystod Cynhadledd Ymchwil 2018, i drafod sut i sicrhau bod myfyrwyr yn deall yr hyn y mae athrawon yn ei olygu pan fyddant yn siarad am ‘ysgwyddo cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun’.

Rebecca Vukovic a Dominique Russell, Chwefror 2019

ACER Teacher

Video Included

https://www.teachermagazine.com.au/articles/taking-responsibility-for-learning

10 Ways To Encourage Students To Take Responsibility For Their Own Learning

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Blog wedi'i ysgrifennu gan athro, dysgwr ac, yn ei gyffes ei hun, ymholwr. Rhestr ymarferol o ddeg ffordd o sicrhau bod dysgwyr yn fwy annibynnol.

What Ed Said - WordPress Blog

https://whatedsaid.wordpress.com/2010/06/29/10-ways-to-encourage-students-to-take-responsibility-for-their-own-learning/

How to develop independent learners

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Adnodd gwych sy'n cynnig syniadau a strategaethau ymarferol ar gyfer creu amgylchedd dysgu mwy annibynnol.

Mike Gershon, 2014

TES

https://www.tes.com/sites/default/files/tes_strategies_to_develop_independent_learners.pdf