EA 9 - atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer.


Cyd-destun

Er mwyn synthesu'r uchod, mae'r erthyglau isod yn ystyried nodweddion amlwg a pherthnasol yr egwyddor.

DYFODOL LLWYDDIANNUS

Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru Yr Athro Graham Donaldson Chwefror 2015

Pennod 5: Addysgeg

9. Drwy addysgu a dysgu da bydd y Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn cael eu cryfhau’n gyson a chyfleoedd yn cael eu darparu i’w harfer

O ganlyniad i gynigion yr Adolygiad, bydd y Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd dros Lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ynghyd â’r sgiliau ehangach, yn cael eu cynnwys yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Ar ôl ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgorffori llythrennedd a rhifedd yn y pynciau a Meysydd Dysgu presennol. Bydd angen adolygu’r gwaith hwn maes o law yng nghyd-destun strwythur diwygiedig y cwricwlwm. Fodd bynnag, bydd yr egwyddor o ymgorffori’n parhau. Yn yr un modd, bydd y fframwaithcymhwysedd digidol arfaethedig a’r sgiliau ehangach yn cael eu hymgorffori yn y Deilliannau Cyflawniad a fydd yn nodi cyfleoedd i’w cymhwyso yn ystod y broses addysgu a dysgu. Yr her o ran addysgu o ganlyniad i fabwysiadu’r Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd fydd parhau i ganolbwyntio ar y cyfrifoldebau hyn yn ystod y broses addysgu a dysgu fel y byddant yn cael eu cymhwyso mewn ffordd naturiol a dilys yn hytrach nag fel elfennau ychwanegol.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-03/dyfodol-llwyddiannus.pdf

What is literacy?

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Dogfen gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol sy'n pwysleisio pam y mae sgiliau Llythrennedd mor bwysig.

Yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol

https://literacytrust.org.uk/information/what-is-literacy/

The importance of literacy instruction across the curriculum

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae'r erthygl hon yn trafod y ffaith nad cyfrifoldeb athrawon iaith yn unig yw addysgu llythrennedd, ac yn gofyn a yw athrawon yn neilltuo amser bob dydd i'r dysgwyr ymarfer eu sgiliau cyfathrebu.

Rebecca Alber 2014 Edutopia

https://www.edutopia.org/blog/literacy-instruction-across-curriculum-importance

Literacy: The Role of communication skills

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae gan tua 10 y cant o'r myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu parhaol, hirdymor sy'n rhwystro eu gallu i ymgysylltu ag addysg. Mae'r ddogfen hon yn archwilio'r modd y mae sgiliau llythrennedd gwael yn creu rhwystrau rhag dysgu, ac yn trafod y strategaethau y gellid eu mabwysiadu i oresgyn y rhwystrau hyn.

Liz Wood & Mary Hartshorne 2017 EdSec

https://www.sec-ed.co.uk/best-practice/literacy-the-role-of-communication-skills/

Rhifedd: Pam y mae rhifedd yn bwysig?

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Erthygl a gyhoeddwyd ar y wefan Rhifedd Cenedlaethol ac sy'n amlygu pwysigrwydd meithrin sgiliau rhifedd da am oes. Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer pawb, am oes, “Rhifedd da yw'r amddiffyniad gorau rhag diweithdra, cyflog isel ac iechyd gwael”.

Andreas Schleicher OECD

https://www.nationalnumeracy.org.uk/why-numeracy-important

The Secret of Numeracy (across the Curriculum)

Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Erthygl ddiddorol ar dudalen we David Didau, sy'n trafod y modd y mae rhifedd yn wahanol i lythrennedd, a bod angen datgymalu'r cysyniad o rifedd er mwyn meddwl fel 'mathemategydd'. Mae'n nodi'r ffyrdd y gallai meddwl yn fathemategol ddigwydd yn naturiol ar draws y cwricwlwm.

David Didau 2014

https://learningspy.co.uk/featured/secret-numeracy/