EA 8 - ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd.
Eglurhad o'r Myfyrdod Cyn Cychwyn
Mae'r Myfyrdod Cyn Cychwyn yma i'ch cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu mewn rhai achosion, a datblygu mewn achosion eraill, yr Egwyddorion Addysgegol a amlinellir yn nogfen Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio'r cwestiynau Cyn Cychwyn hyn gyda'r staff yn eich Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) i hyrwyddo trafodaethau ynghylch eich pwnc a thrawsnewidiad eich MDPh tuag at Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd yn eich annog i ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i chi eu defnyddio i gefnogi'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Bydd hefyd yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio addysgeg ar gyfer eich ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn ystyried y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.
Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.
Gallai eich cefnogi i nodi cryfderau addysgegol eich MDPh neu eich maes pwnc penodol, ynghyd â'r blaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022.
"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol."
Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020
Cwestiynau myfyrio cyn cychwyn:
Sut ydych chi'n gwneud cysylltiadau ac yn trosglwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar draws ystod o gyd-destunau?
Sut mae cyfathrebu a chydweithio o fewn ac ar draws adrannau / grwpiau blwyddyn i sicrhau bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu ac addysgu?
Sut mae sicrhau bod dysgu ar draws y meysydd yn ddilys?
Sut mae sicrhau dilyniant o'r sgiliau a'r wybodaeth, o fewn ac ar draws y meysydd?
A ydych yn rhagweld y byddai'r dull hwn yn gweithio'n well i rai grwpiau o ddysgwyr nag eraill? Os ydych, pwy a pham? Os na, pam lai?