Mae addysgeg wrth wraidd y cwricwlwm. Wrth ddylunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddynt eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Dylai ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a manwl o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddynt. Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.

"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol."

Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020

EA1 - canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm


EA2 - rhoi her i’r holl ddysgwyr trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gyflawni disgwyliadau sy'n uchel, ond sydd o fewn eu cyrraedd

EA3 - defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys addysgu uniongyrchol


EA4 - 1. defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol, a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol

EA5 - golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb


EA6 - creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu

EA7 - dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu


EA8 - ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd


EA9 - atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer


EA10 - annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain


EA11 - hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol


EA12 - hybu cydweithio.