EA 2 - rhoi her i’r holl ddysgwyr drwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gwrdd â disgwyliadau sy'n uchel, ond o fewn eu cyrraedd.
Eglurhad o'r Myfyrdod Cyn Cychwyn
Mae'r Myfyrdod Cyn Cychwyn yma i'ch cefnogi ar eich taith wrth i chi ddechrau gweithredu mewn rhai achosion, a datblygu mewn achosion eraill, yr Egwyddorion Addysgegol a amlinellir yn nogfen Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Gellir defnyddio'r cwestiynau Cyn Cychwyn hyn gyda'r staff yn eich Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) i hyrwyddo trafodaethau ynghylch eich pwnc a thrawsnewidiad eich MDPh tuag at Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd yn eich annog i ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen i chi eu defnyddio i gefnogi'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Bydd hefyd yn eich cefnogi wrth i chi gynllunio addysgeg ar gyfer eich ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod y dysgu a'r addysgu yn ystyried y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.
Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.
Gallai eich cefnogi i nodi cryfderau addysgegol eich MDPh neu eich maes pwnc penodol, ynghyd â'r blaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw wrth i ni symud tuag at fis Medi 2022.
"Dylai'r broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer dysgwyr o bob oed a gallu fod yn seiliedig ar egwyddorion addysgegol. Mae'r rhain yn adlewyrchu tystiolaeth hysbys am addysgeg effeithiol."
Canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 2020
Cwestiynau myfyrio cyn cychwyn:
Sut ydych chi'n dangos cynnydd mewn dysgu yn eich pwnc?
Sut ydych chi'n rhoi adborth i'ch dysgwyr er mwyn cydnabod ymdrechion?
Sut ydych chi'n dangos disgwyliadau uchel?
Sut mae hyn yn cysylltu ag Egwyddorion Addysgeg eraill?
Sut allai hyn wella dysgu ac addysgu? (Personol / Adran/ Ysgol)
Beth fyddai'r heriau o geisio gweithredu hyn? Sut y gellid goresgyn yr heriau hyn?