EA 1 - canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm

Tasg y Pedwar Diben

Pwrpas y dasg hon yw hyrwyddo'r broses o feddwl am y pedwar diben a'u nodweddion allweddol. Dylid annog y staff i drafod a rhestru'r sgiliau y bydd angen i bob dysgwr eu meithrin er mwyn cyflawni'r nodweddion hynny, yn ogystal â rhoi enghreifftiau o'r profiadau y bydd eu hangen i hwyluso hyn.

Darperir pedair tudalen, pob un yn ymwneud ag un o'r pedwar diben. Efallai yr hoffech gael pedwar grŵp gwahanol a thrafod y dasg ar ffurf carwsél er mwyn sicrhau trafodaeth gyfoethog.

Dylai'r staff ystyried eu darpariaeth a'u hymarfer (ar lefel yr adran, y pwnc, y grŵp blwyddyn a'r ysgol), er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu nodweddion y pedwar diben ymhlith eu dysgwyr.

Gweithdy 1 Pedwar Diben Cymraeg.pdf
Curriculum on a Page Cymraeg.pdf




Cwricwlwm ar dudalen

Mae'r dasg hon yn gofyn i'r staff ystyried y modd y mae eu darpariaeth a'u hymarfer yn canolbwyntio ar bob agwedd ledled y cwricwlwm.

Ystyriwch sut y gall y meysydd gwahanol ddatblygu dibenion cyffredinol y cwricwlwm.